Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Treuliais amryw ddyddiau dedwydd yn Nhrefeca. Crwydrwn, wrth f'ewyllys, drwy'r ystafelloedd lluosog, fu unwaith yn gartref i "deulu" rhyfedd Hywel Harris. Teimlwn fod Trefeca yn gynllun o goleg,- mewn lle iach tawel. Hen weithdy'r "Teulu" ydyw un o'r ystafelloedd darlithio, a ddangoswyd i mi dwll trwy yr hwn y gallai Hywel Harris weled, yr adeg a fynnai, pa fodd yr oedd pethau'n mynd ymlaen yn y gweithdy. Y mae'r llyfrgell yn cynnwys un o'r casgliadau gorau o lyfrau Cymraeg welais erioed; casglwyd hi, yr wyf yn meddwl, trwy lafurus gariad y Parch. Edward Matthews. Cynhwysa hefyd ddyddiaduron a llythyrau Hywel Harris, a llawer o lythyrau eraill deifl oleuni diddorol iawn ar gynlluniau a gwaith Hywel Harris.

Nid oes fawr o ffordd o Drefeca i Lyn Safaddan. Llecyn mwyn ydyw'r llyn hwn, treuliais ddiwrnod hyfryd ar ei ddyfroedd. Croesasom ef droeon a gadawsom i'r cwch sefyll ymysg yr hesg tal sy'n tyfu o waelod y llyn tra'r oeddem yn gwylio'r eleirch ac yn mwynhau'r golygfeydd oedd wedi ymddelwi yn y dyfroedd clir. Dyma le tawel,lle wrth fodd y myfyrgar, dan gysgod Mynydd Troed, ac o fewn ychydig i gyrchfannau miloedd glowyr y Deheudir. Tra'n mwynhau'r awelon hafaidd, cofiwn am y traddodiad