Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sydd ynglŷn â'r llyn,- fod ei ddyfroedd yn cuddio dinas bechadurus suddodd i'r ddaear dan bwys ei drygioni.

Gadewais Drefeca yn blygeiniol, ac yr oedd awel iach y bore yn gwneud fy meddwl yn ddigon effro i gofio darluniad Williams adeg marw Hywel Harris, -

"Mi af heibio i'r palas euraidd
Sydd â'r angel ar ei ben,
'Drychaf ar y castell cadarn
Sy a'i begynau yn y nen;
Ac mi rof ochenaid ddofon,
Gan ryw synnu ynnwyf f'hun,
Fel mae'r nef yn trefnu ei throion
I ddiddymu dyfais dyn.


"Er cadarned yw'r adeilad,
Ac er teced yw ei wedd,
Y mae'r perlyn gorau ynddo
Heddyw'n gorwedd yn ei fedd
Ac nis gwel e mwy mo honno
Fel y gwelodd ef o'r bla'n,
Hyd y dydd bo'n cael ei losgi
Gyda'r byd yn danllwyth dan.