Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mwy o ofn plismon anwybodus o Sais nag o ofn Cymro gonest a chydwybodol. Ond tybed, er hyn, mai Sais uniaith ddylai ofalu am heddwch Llangamarch?

O'r bont cerddais i'r pentref, pentref bach ar lan yr afon dan gysgod bryn. Gofynnais i'r wraig gyntaf gyfarfyddais am y ffordd i Gefn Brith; atebodd hithau, cyn gynted â’r gwynt, drwy ofyn cwestiwn arall, ”I chi'n blongo iddi nhw?" Wedi i mi ddweud digon o fy hanes i'w boddloni, rhoddodd gyfarwyddiadau manwl i mi, a disgrifiadau maith o ffyrdd, trofeydd, coed, a thai. Anghofiais y rhan fwyaf wrth gerdded i fyny gyda glan yr afon; ac erbyn i mi holi yr ail waith yr oeddwn wedi mynd yn rhy bell o lawer hyd ffordd Llanymddyfri, ac wedi anghofio troi. Troais yn ôl; a gwelwn ffordd drol ar y llaw dde yn arwain o'r gwastad, ac yn dirwyn i fyny ochr y bryn. Cerddais innau hyd hon, ffordd leidiog is na'r caeau o'i chwmpas. Erbyn hyn yr oedd yn glawio'n drwm, a da oedd cael cysgod y gwrychoedd uchel trwchus. Bûm am gwarter milltir heb weled fawr ond bedw a gwern; yna, wrth i mi godi uwchlaw'r dyffryn, daeth y wlad agored i'r golwg, ac ambell lygedyn o haul arni trwy'r gwlaw. Wedi cyrraedd pen y bryn, cefais olygfa ogoneddus ar fryniau a dyffrynnoedd yn ymestyn i'r gorllewin. Bûm yn cerdded am beth, amser hyd ffordd wastad,