Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyda'r dyffryn ar y llaw dde, a mynyddoedd, at y rhai yr oeddwn yn dod agosach agosach, ar y llaw chwith. Ar odrau'r mynyddoedd hyn yr oedd ffriddoedd, llawer glyn cul coediog, a llawer hafan werdd. O’r diwedd does i olwg y tŷ ; nid oedd y pellter gerddais ond rhyw ddwy filltir a hanner, ond tybiwn ei fod yn ychwaneg, oherwydd fod cymaint o dynnu i fyny a bod y ffordd mor drom gan y glaw. Ond anghofiais fol lludded a dillad gwlybion wrth edrych ar yr olygfa welir o ymyl Cefn Brith.

Gwelwn lwybr yn mynd at wyneb y tŷ trwy ganol gweirglodd weiriog wlithog; ac yr oedd y ffordd yn rhoi tipyn o dro, ac yn mynd heibio'r adeiladau. I ba gyfeiriad bynnag yr edrychwn, gwelwn fynyddoedd yn edrych arnaf o’r tu cefn i fynyddoedd. I'r gorllewin, dros Gefn Gorwydd a phentref a chapel mawr, yr oedd mynyddoedd Llanwrtyd ac Ystrad Ffin; ac ar yr ochr arall yr oedd hafanau gwyrddion mynyddig, gydag ambell goeden griafol ac ambell fedwen yn ymddyrchafu mewn tlysni dan wlith y cawodydd a gwen yr haul. Dyma'r ardaloedd y bu John Penri yn meddwl am danynt pan yn ffoadur yn Lloegr a'r Alban, yr ardaloedd gafodd bryder ei fywyd a'i feddyliau olaf.

Adeg ryfedd oedd yr adeg y bu Meredydd Henri yn disgwyl John adref o'r ysgol i'r lle