grefydd genedlaethol y gellid goddef i gydwybod pob dyn ffurfio ei grefydd ei hun. O'r brifysgol, deuai Penri i fynyddoedd Brycheiniog yn ystod ei wyliau, a nis gallai llai na theimlo mor ofergoelus oedd Cymru, - gwlad oedd wedi colli ei Phabyddiaeth, a heb gael eto ddim yn ei lle. Yn 1586 daeth i Rydychen, ac yma, y mae'n debyg, yr ysgrifennodd ei bamffled ar sefyllfa resynus Cymru, y pamffled anfonodd yn 1587 i'r frenhines a'r senedd. Dychrynodd y pamffled hwnnw lawer, a pha ryfedd, oherwydd gofynnid ynddo am hawl i leygwyr Cymru bregethu'r efengyl. Er i'r hyn ddywedid ynddo gael ei ddweud yr y Senedd hefyd, gwysiwyd Penri o flaen yr awdurdodau eglwysig, o flaen yr Archesgob Whitgift a'r esgobion. Rhaid maddeu llawer i'r rhain pan gofiwn mai cred eu hoes oedd fod yn rhaid, er diogelwch, lladd pob gwrthryfel yn erbyn sefydliadau cenedlaethol. Dywedasant wrth Benri nas gellid goddef ei syniad nad oedd clerigwr na phregethai yn weinidog Crist. Cyhoeddodd yntau ryfel yn erbyn yr awdurdodau trwy ddweud y collai ei fywyd cyn y rhoddai'r syniad hwnnw i fyny.
Yn 1588, blwyddyn yr oedd Lloegr yn hanner addoli ei brenhines a'i heglwys wedi'r Armada, blwyddyn Beibl yr Esgob Morgan, yn y flwyddyn honno cyhoeddodd Penri bamffled arall. Mewn iaith huawdl, condemnia'r ymgais ffôl i