Mwy na ddygwch o'i rinweddau, |
BEDD YN YR ARDD.
[Gan y PARCH. ROGER EDWARDS, Wyddgrug, gweinidog gyda'r Methodistiaid, 1811-1886.]
I ARDD a bedd Joseph cyffelyb yw'r byd,
Arwyddion marwolaeth geir ynddo i gyd;
Pan welir o'n hamgylch bob golwg yn hardd,
O cofiwn bryd hyny fod bedd yn yr ardd.
Gardd bêr ydyw teulu lle cerir yn glau,
Ond blodau perthynas nis gallant barhau;
Yr hoff blentyn heddyw yn iachus a chwardd,—
Yfory mae'n marw; mae bedd yn yr ardd.
Gardd wech ydyw cyfoeth, lle tŷf er boddhad,
Esmwythder corphorol a bydol fawrhad;
Ond angau ddaw yno, nid gwiw ei wahardd;
Rhaid marw mewn palas; mae bedd yn yr ardd.
Yn eglwys yr Iesu,—gardd hyfryd yw hi—
Mae'r blodau prydferthaf a fedd ein byd ni;
Y cywir gredadyn fel rhosyn a dardd,—
A gwywa fel yntau—mae bedd yn yr ardd.
Yr eilfyd dyfodol sydd amgen ei wedd;
Hynodrwydd y ddaiar yw gardd gyda bedd;
O fewn y byd isod ceir cysur, ceir braw;
Ond pethau digymysg geir yn y byd draw.
Pa beth ydyw uffern? Bedd, bedd heb un ardd,
Un eang farwolaeth yw'r fangre' anhardd;
Pa beth ydyw'r nefoedd? Gardd, gardd heb un bedd!
Cawn fyw yn drag'wyddol yn nghartref yr hedd.