Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwaeddai—Mam! yr wyf yn marw,
Brathwyd fi yn arw, arw,
Gan ryw sarph hedegog, felen,
Ac ei henw yw Gwenynen.

Ebai Gwener, os Gwenynen
A'th bigodd di, mor drwm, fy machgen,
Pa faint mwy y saethau llymion
A blenaist ti yn llawer calon.

YMDDYDDANION FY MAM.

(IOAN TEGID.)

HWN! fy mam, pa edn yw?
O! Hedydd yw,
Fy Mab, eheda fry, i'r entrych draw,
Pob bore gyda'r wawr, gan foli Duw
Yn felus iawn; ac yn ei ol ni ddaw
I'r ddaiar mwy, hyd nes gorpheno ei gân;
Gan ddysgu dyn mai ei ddyledswydd yw
Pob bore ar ol ymolchi 'n lân,
Gwir wneuthur coffa am ddaioni Duw.
O, fy mab! tebyga di yr Hedydd ar ei daith,
Yn wresog bydd mewn gweddi cyn dechreu dim o'th waith.

Hwn! fy mam, pa edn yw?
Colomen fach,
Fy Mab, yn trydar wrthi ei hun,
Un fodd a'th nain, neu ti pryd nad wyt iach;
Colomen hoff! mor hardd ei lliw a'i llun!
Mor ffyddlawn idd ei chymhar hefyd yw!
Fy mab, na thafla gareg at ei phen;
Mae mor ddiniwed O, gad iddi fyw!
Na chlwyfa hi, goddefa hyn o sen;
O, fy mab! tebyga di y war Golomen hon,
O hyd mewn diniweidrwydd, a thawel fydd dy fron.

Hwn! fy mam, pa edn yw?
O! Alarch gwyn,
Fy Mab, o dòn i dòn yn nofio 'n hardd,
Nes cyrhaedd tawel ddwr o tan y bryn,
Lle cân ei farwnad uwch na'r mwynaf Fardd,
A llais melusach nag erioed o'r blaen,
Ac yna gorwedd ar ei wely llaith,
I farw, ac eị esgyll gwyn ar daen;
Mal hyn yr Alarch a derfyna ei daith.
O, fy Mab! tebyga di yr Alarch. Yr un wedd,
Mwy nefawl boed dy eiriau wrth nesu at y bedd.