Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YMWELIAD Y BARDD

(IOAN TEGID)

.
I dref y Bala yr aeth y Bardd,
I edrych am ei dad;
Aeth dros y tŷ, a thrwy yr ardd,
Gan waeddi "O fy nhad!
Nid yw fy nhad yn unrhyw fan,
Os nad yw yn y bedd;"
Atebai careg iddo'n wan,
Dywedai,—"Yn y bedd!"

"Pa le mae Gwen, fy anwyl Gwen,
Fy chwaer pa le'r wyt ti?
Os wyt yn fyw, anwylaf Gwen,
Ateba, Wele fi'
Ni chlywaf lais, mawr yw fy mraw,
Wyt tithau yn y bedd?"
Atebai'r gareg oedd gerllaw,
Dywedai—"Yn y bedd!"

"Fy mam, fy mam, anwylaf fam
A roist im ' faeth a mag,
O dywed' im', fy mam, paham
Mae'r gadair hon yn wag?
Fy mam, fy mam, fy mam, fy mam
Wyt tithau yn y bedd?"
Atebai'r gareg ateb gam,
Dywedai,—"Yn y bedd! "

"Mae'r tŷ yn dywyll drwyddo draw,
A'r ardd â'i blodau'n wyw;
Na’m tad, na'm mam, na'm chwaer gerllaw,
Ni welaf mwy yn fyw;
Maent hwy yn cysgu'n min y Llyn,[1]
Mewn gwely pridd eu tri:
Mi wylaf dro wrth feddwl hyn,—
Mae hiraeth arnaf fi."

CREADIGAETH Y BYD.

(Y PARCH. REES PRICHARD, Ficer Llanymddyfri, 1579–1644.)

[Cymerwyd y gân hon o enau hen wraig, yr hon a ddysgodd hi gan ei mam,
yr hon fu yn gwasanaethu gyda'r Hen Ficer, yn Llanymddyfri.]

PWYSWCH, Gymry mwyn, caredig,
Ata'i wrando cerdd blethedig
Yr hon sy'n traethu pethau hynod
Am waith Duw mewn chwe' diwrnod.

  1. Llyn Tegid