Tudalen:Catherine Prichard (Buddug), Cymru, Cyfrol 39, 1910.pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Buddug

(Erthygl o Cymru, Cyfrol 39, 1910 tt 221-224 Cylchgronau Cymru—Llyfrgell Genedlaethol Cymru[1])

UN о ferched "Моn Mam Cymru" ydoedd y ddiweddar Mrs. Cathrine Prichard (Buddug), Caergybi. Ganwyd hi yn Llanrhyddlad, Gorffennaf 4, 1842. O du ei thad, yr henafiaethydd clodfawr Mr. Robert ap Ioan Prys (Gweirydd ap Rhys), hanai yn syth o gyff cenedl un o bymtheg llwyth Gwynedd. Enw ei mam oedd Grace, gwraig nodedig am ei thawelwch a'i duwiolfrydedd. Yr oedd y bardd ieuanc athrylithgar Golyddan, brawd Buddug, yn meddwl yn uchel o'i fam. Yng ngholeg ei fam y derbyniodd argraffiadau dyfnaf ei oes. Dywedodd wrth ei dad unwaith,-"Yr wyf, er yn fachgen, fel y gwyddoch, fy nhad, yn gwybod yr Ysgrythyr Lan, yr hon sydd yn abl i'm gwneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy y ffydd sydd yng Nghrist Iesu dyma y ddoethineb a ddysgodd fy mam i mi, nhad, cyn dyfod dan eich addysg chwi, na'r ysgol, na'r eglwys."

Yr oedd Buddug yr wythfed yn y teulu, ac yn ddwy flynedd ieuengach na Golyddan. Ar enedigaeth y ddau hyn o'i blant fe gyfansoddodd eu tad englynion, ac mewn hwyl yr arferai ddweyd mai dyna y rheswm y medrai y ddau farddoni. Wele yr englyn i'w fab Golyddan,—

Diolch i Dduw a dalaf—am eni
Im' hoenfab dianaf;
Ei gyflwyno'n gof lawnaf
I fy Nuw yn hyfwyn wnaf."

Ar enedigaeth Buddug, eto,—

"Ganwyd im' eneth geinawl,—ddianaf,
O ddoniau'n Tad Nefawl
Rhoed i hon gynnar rad hawl
Yn Iesu mawr grymusawl."

Gwel y cyfarwydd nad yw yr englynion yn gwbl reolaidd, ond cawn ynddynt ddatganiad o deimladau diolchgar tad serchog ar enedigaeth ei blant.

Unwyd Buddug mewn glân briodas â Mr. Owen Prichard, Caergybi, Ionawr 2, 1863, ac ni bu bywyd priodasol llawnach o gydgord a dedwyddwch. Yr oedd y ddau yn gwbl o'r un chwaeth, yr hyn a fu yn fantais iddi i ymhyfrydu mewn llenyddiaeth a gwneyd daioni. Dywedir ddarfod i Mr. Prichard ofyn am ei wraig i'w thad mewn englyn, a boddhawyd Gweirydd mor fawr fel y bu iddo yn y fan ei fedyddio yn Cybi Velyn," ac yn Eisteddfod Gadeiriol Mon, 1879, derbyniwyd ef i gylch Gorsedd y Beirdd, i'w adnabod rhaglaw wrth y ffugenw hwn. Ar un pwnc yn unig y methai Buddug a'i phriod gytuno, sef y cynganeddion. Edmygai Cybi Velyn y gynghanedd Gymreig, a meistrolodd hi yn ieuanc. Cywirai Gweirydd mewn englyn aml dro a mawr yr hwyl a fwynheid. Ychydig o afael ar galon Buddug oedd gan y cynganeddion. Hoffai darawiadau naturiol a seinber, ac addefai brydferthwch pennill cynganeddol ond gwell ganddi ydoedd rhyddid y dragwyddol heol," fel y dywed Islwyn. Dechreuodd Buddug rigymu pan tua deg oed, ac mor naturiol ydoedd y gwaith iddi fel na bu o dan angenrheidrwydd i ddysgu unrhyw reolau. Carai astudio llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg o'i phlentyndod. Pan yn bur ieuanc cymerai ddyddordeb dwfn yn yr hen arwyddeiriau Eisteddfodol a dysgodd lawer ar yr hen benillion Cymraeg yn y Cambro-Briton. Pan oddeutu deunaw oed anturiodd ysgrifennu traethawd ar Y Wenynen" ar gyfer cyfarfod cystadleuol,

  1. Catherine Prichard (Buddug), Cymru, Cyfrol 39, 1910 tt 221-224