Tudalen:Catherine Prichard (Buddug), Cymru, Cyfrol 39, 1910.pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac enillodd y gamp. Aeth ymlaen ac enillodd amryw wobrau mewn barddoniaeth a rhyddiaith. Tua'r adeg yma cyhoeddodd newyddiadur, a'i enw Udgorn y Bobl," nifer o erthyglau gwawdlym ar "Ffoledd Ffasiwn." Teimlodd Buddug i'r byw dros anrhydedd ei rhyw, a mentrodd allan i'w hamddiffyn; a bu y frwydr yn galed o'r ddeutu, ond cafodd Buddug y gair olaf ar y gelyn.

Dyma y pryd y defnyddiodd yr enw Buddug gyntaf, i ymguddio rhag y cyhoedd. Buan, fodd bynnag, yr amlygwyd y dirgelwch, a daeth ar ôl hyn i gael ei hadnabod wrth yr enw; ac urddwyd hi yn rheolaidd yn ôl braint a defawd beirdd Ynys Prydain gan Clwydfardd, yn Eisteddfod Dinbych yn 1860. Er y pryd hwnnw hyd nes y gwywodd ei llaw yn oerni angau, ni roddodd heibio ei hysgrifell. Ymddanghosodd erthyglau a chaneuon o'i heiddo bron ymhob newyddiadur a chylchgrawn misol a chwarterol Cymreig a Seisnig yng Ngogledd Cymru. Cydnabyddir yn gyffredinol fod ei hysgrifau ar "Ioan Maethlu," "Islwyn," ac Ann Griffiths yn y Geninen yn gampweithiau mewn ystyr lenyddol ac yn hawlio iddi safle anrhydeddus ymysg ysgrifenwyr galluocaf ei hoes. Ar adeg canmlwyddiant Ann Griffiths yn Llanfyllin, 1905, darllenodd bapyr am yr hwn y dywedid ei fod yn un o'r darnau goreu a draddodwyd erioed oddiar unrhyw lwyfan.

Nodweddid ei holl ysgrifau gan drefnusrwydd a gorffenrwydd mawr, iaith goeth ac urddasol, syniadaeth eglur, ac amlygiant o adnabyddiaeth a phrif weithiau llenyddol y Cymry a'r Saeson. Am ganeuon Buddug credwn y cytuna beirdd a cherddorion i'w rhestru ymysg eiddo prif-feirdd ein cenedl. Mae ynddynt gyfuniad hapus o'r tyner a'r dwys, ac ni pherthyn iddynt ddim masweddol a choeg-ddigrifol,—maent yn bur fel gwlith y bore, ac yn llawn o'r peth byw hwnnw sydd mor anhawdd i'w ddarnodi, ond yn cyffwrdd y galon ac yn gwresogi yr ysbryd. Y mae yn ffaith nodedig mai drychfeddyliau sydyn ar adegau tyner yn ei bywyd ydyw ei chaneuon rhagoraf a mwyaf poblogaidd. Wrth ysgrifennu at gyfeilles lenorol fynwesol amgauodd flodeuyn, ac yn y fan cyfansoddodd "Neges y Blodeuyn." Yng nghanol hirddydd haf, tra yn gwylio yn ofalus a phryderus wrth wely claf ei mam y cyfansoddodd O na byddai'n haf o hyd." Y mae canmawl y caneuon hyn yn rhywbeth tebyg i baentio y rhosyn, neu gannu y lili. Y maent o ran syniadau mor loew, ac o ran ieithwedd mor esmwyth a dillyn, diau y gellir eu nodi ymysg gorchestion ei hawen. Yr oedd Buddug yn deall anhebgorion 'barddoniaeth ganeuol yn drwyadl, ac nid cysylltiad ei chaneuon â cherddoriaeth sydd yn eu gwneyd yn berorol a chanadwy. Na, y maent ynddynt eu hunain felly, yn llawn swyn a mynegiant.

Cân brydferth a chelfydd iawn ydyw "Cennad y Don," a gyfansoddwyd ganddi ar gyfer cerddoriaeth gan Eos Bradwen,-

CENNAD Y DONN.

Ar noson serog dawel
Gan syllu tua'r gorwel,
Y rhodiai geneth heinyf lon,
Mor ysgafn fron a'r awel ;
Ym merw eu difyrion,
Gadawodd ei chymdeithion,
Er mwyn cael bod ynghwmni iach,
Y cregin bach a'r eigion.

Y lloer oedd yn disgleirio,
A'i chalon hithau'n dawnsio,
I fiwsig per y graian glân,
A'r tonnau mân yn tiwnio;
Ehedai ei myfyrion,
Dros nwyfus donnau Neifion,
Ac aent yn union megis saeth,
Ac un a aeth a'i chalon.

Mae cusan felus, felus,
Ei morwr ar ei gwefus,
Gafaela megis angor serch,
Ym mron y ferch hyderus;
Dywedodd wrth ffarwelio
Y deuai ati eto,
Sibrydai hithau y'nghlust y donn,
Am fod yn dirion wrtho.

Ond Ha! y donn anhydyn,
Beth ddygi ar dy frigyn?
Mae angeu yn dy fynwes ddofn,
A braw, ac ofn a dychryn;
Ar ddannedd certh y creigiau,
Ac aberth i'r rhyferthwy frad
Ei hanwyl gariad hithau!

* * * *

Y llanc ysgrifennodd ei dynged ei hun,
A chostrel a'i dygodd i ddwylaw ei fun!
Llewygodd yr eneth, a'r saeth yn ei bron,
Trywanwyd ei henaid gan gennad y donn.

Mawr ydyw dirgelwch ofnadwy y môr;
Ond mwy ydyw gallu Anfeidrol yr Ior;
Efe sydd yn gwylio curiadau pob bron,
Efe ydyw awdwr tynghed fen pob tonn.

Efe a droes estyll marwolaeth oer erch,
Yn gerbyd i ddychwel cariad-lanc y ferch,
Y bachgen ddaeth yno i'w gwasgu i'w fron,
Rhoes Arglwydd y storom y gennad i'r donn.

Yr oedd ym mwriad Buddug gyhoeddi llyfr, ac am fisoedd cyn ei chystudd olaf bu yn casglu ei gwaith ynghyd, ac yn dethol y pryddestau a'r caneuon a ystyriai yn rhagori. Y mae y casgliad ger ein