Tudalen:Catherine Prichard (Buddug), Cymru, Cyfrol 39, 1910.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bron yn barod i'r wasg. Cawn ynddo gyfansoddiadau ar amrywiol destynau, ac y mae tinc yr awen wir" ymhob llinell ym mron. Yn ychwanegol at y caneuon a enwyd yn barod, dichon yr ystyrir yn nosbarth ei chaneuon mwyaf effeithiol a llwyddiannus, y rhai canlynol,—Blodau ac Adar," "Bwthynod Gwynion Gwalia," "Nodyn cynta'r tymor," "Tyred i Gymru," a "Bore Oes." Anfynych y daeth Buddug allan i'r maes cystadleuol. Yr oedd gormod o natur yn ei hawen i ganu am wobr mewn Eisteddfod ond cawn ymysg ei gweithiau rai darnau arobryn, megis penillion Y Bachgen Iesu ymysg y Doctoriaid," "Y Deigryn," "Joseph yn hysbysu ei hun i'w frodyr," Y Weddw" (cyd-oreu yn Eisteddfod Caerdydd), a phryddest,—Glyn Cysgod Angau (Eisteddfod Amlwch, 1877). Ar farwolaeth y Dywysoges Alice anfonodd ddernyn o farddoniaeth Seisnig i'r Frenhines, a derbyniodd oddiwrthi gydnabyddiaeth o ddiolchgarwch. Yr oedd Buddug yn un o'r beirniaid yn yr adran farddonol yn Eisteddfod Caergybi 1907, ac yn cymeryd rhan amlwg yng Ngwyl Cyhoeddiad Eisteddfod Amlwch, 1908 a dynna ei hymddangosiad cyhoeddus olaf ynglŷn â'r Eisteddfod. Yr oedd wedi marw ychydig wythnosau cyn dyddiad yr wyl yn 1909. Teimlid chwithdod a hiraeth ymysg beirdd, llenorion, ac Eisteddfodwyr y sir oherwydd ei hymadawiad. Talwyd teyrnged o barch i'w choffadwriaeth yn yr Orsedd, pryd y traddodwyd oddiar y Maen Llog y sylwadau canlynol gan ysgrifennydd y nodiadau hyn,—

Pleser prudd i mi ydyw sefyll i fyny, i goffhau enw anwyl Buddug, canys mawr ydyw ein hiraeth ar ei hol. Ddeuddeg mis yn ôl yr oedd yma yn cymeryd rhan amlwg yng nghyhoeddiad yr Eisteddfod hon. Erbyn heddyw ei 'lle nid edwyn hi mwy.' Treuliais yr wyth mlynedd ar hugain diweddaf yn yr un dref a hi. Cefais fwynhau llawer o'i chymdeithas. Cefais gyfleusderau i'w hadnabod, i ffurfio barn bersonol, ac i wybod barn y dref a'r wlad amdani. Gallaf dystio yn ddi-ofn oddiar y maen hwn heddyw mai un o ragorolion y ddaear ydoedd ein chwaer ymadawedig. Gwraig oedd yn addurn i'w rhyw, yn anrhydedd i'w gwlad, ac yn ogoniant i'w chenedl. Yr oedd ei hathrylith yn ddiamheuol, ei chymeriad yn lân, ei chwaeth yn bur, a'i hamcanion yn ddyrchafedig. Yr oedd wedi etifeddu yn helaeth o chwaeth farddonol a llenyddol ei henafiaid. Ni ddywedwn fod ei dychymyg mor gyfoethog, dieithr, a rhwysgfawr a'i brawd Golyddan. Ni chynhyrchodd ddim tebyg i Iesu.' Nid oedd awenyddiaeth y ddau yn perthyn i'r un dosbarth. Ond dywedwn, er hynny, fod caneuon Buddug yn llaith gan fywyd ac anfarwoldeb. Loes drom i galon Buddug oedd claddu Mr. William Davies y cerddor, y gŵr a wisgodd ei thelynegion byw ag alawon pêr, pa rai a genir rhwng mynyddau ein gwlad tra y bo cân ar wefus ein cenedl. Mae y ddau, mi gredaf, erbyn hyn wedi ymuno yng nghân dragwyddol y nef. Ffarwel, Buddug hoff Huned ei marwol ran yn dawel yn naear ei gwlad enedigol. Gwarchoded engyl Duw ei gorweddle hyd y bore mawr y bydd:

Dorau beddau y byd
Ar un gair yn agoryd.'

Fel hyn yr ysgrifenna y Parch. Thos. Williams, Armenia, Caergybi, gweinidog parchus a phoblogaidd yr eglwys y perthynai Buddug iddi,- Yr oedd ein hanwyl chwaer yn un o'r cymeriadau puraf, tryloewaf a adwaenais erioed Yr oedd yn gymeriad cyfan, diargyhoedd, a difrycheulyd. Ni chlywais hi erioed yn arfer gair isel, di-chwaeth, ac ni feiddiai neb arall wneyd yn ei phresenoldeb yr oedd mewn cwmni neu mewn cyfarfod yn fynych yn rhoddi ton uchel i'r ymddiddan. Yr oedd delw ei chymeriad glân ar ei holl weithiau barddonol a rhyddieithol. Gwyr Cymru ei bod yn athrylith ddisglair, yn deilwng ferch i'w thad enwog, ac i'w brawd anfarwol Yr oedd talent ac athrylith yn ei gwaed, gwnaeth hithau bob defnydd o'i chysylltiadau a'i thraddodiadau, a chysegrodd yr oll ar allor gwasanaeth ei Harglwydd."

Credaf mai ei phrif nodweddion fel barddones oedd purdeb, naturioldeb, swyn, a gobaith. Amcan ei bywyd a chenadwri ei chaneuon oedd dyrchafu dyn a gogoneddu Duw. Er mai byd y meddwl oedd ei byd hi, yr oedd yn un o'r gwragedd mwyaf ymroddgar i waith ymarferol crefydd. Gwyddai pawb am ei sêl gyda dirwest a sobrwydd. Teithiodd lawer i bwyllgorau a chyfarfodydd dirwestol, a siaradodd yn fynych gyda grymusder mawr, ond yn hynod lednais a gwylaidd. Yn ei chylch cartrefol yr oedd yn nodedig o wasanaethgar; cai y Gobeithlu a'r cyfarfodydd dirwestol ei chefnogaeth lwyraf. Yr oedd yr Ysgol Sul yn agos iawn at ei chalon. Bu yn athrawes fedrus ar ddosbarth o enethod ieuainc am lawer o flynyddoedd. Meddai allu rhyfedd i fyned i mewn i serch ei disgyblion. Byddai bob amser yn y cyfarfod gweddi a'r gyfeillach grefyddol.