Tudalen:Catherine Prichard (Buddug), Cymru, Cyfrol 39, 1910.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ymborthai ar wirioneddau mawr hanfodol yr efengyl. Anaml y ceid profiad uchel ganddi yn y seiat; yr oedd yn rhy wylaidd i honni pethau mawr. Byw crefydd a gwneyd gwaith crefydd yn ddistaw, heb waeddi ac heb ddyrchafu," dyna'i hanes ar hyd ei hoes.

Prin y mae eisiau dweyd ei bod wedi llanw lIe gwraig hyd yr ymylon. Er ei holl lafur llenyddol, ac ynglŷn a chyfarfodydd cyhoeddus, gwarchodai gartref yn dda." Yr oedd yn wraig rinweddol," ac yn briod ofalus a thyner. Ni bu deuddyn erioed hapusach na Chybi Velyn a Buddug,-y ddau o gyffelyb chwaeth a thueddiadau naturiol a chrefyddol. Buont yn cyd-deithio yn yr anial dyrys maith am chwe mlynedd a deugain. Anhawdd iawn oedd iddynt ffarwelio, ond cawsant nerth gan Dduw i wneyd hynny.

Bu Buddug farw nos Lun, Mawrth 29, 1909, yn dawel, fel pe heb brofi marwolaeth. Cafodd gystudd am rai misoedd, ac o'r diwedd gollyngwyd hi i orffwysfa Duw. Hiraethai am gael marw. Yr oedd ymweled â hi yn ei chystudd olaf yn un o freintiau mawr fy mywyd. Yr oedd yn dawel a siriol iawn, ac yn gwbl hunanfeddiannol. Gwnaeth bob trefniadau ar gyfer ei hangladd. Am farw a thragwyddoldeb yr hoffai son. Fel y gallesid disgwyl, syml iawn oedd ei hangladd,—dim ond ychydig berthnasu a chyfeillion. Ond dangoswyd arwyddion cyffredinol o barch gan yr holl dref. Claddwyd Buddug ym mynwent Maes-hyfryd, Caergybi, yn ymyl ei thad a'i mham. Nodi'r mangre ei gorweddfa gan golofn hardd o farmor gwyn.

Dyma ei hemyn olaf. Canodd hwn tra yn gwersyllu yn Rhosydd Moab, a'i gwyneb ar wawr y Ganan dragwyddol. Dengys y llinellau pa mor obeithlawn y cauodd ei llygaid ar y byd, gan wireddu yr ymadrodd,—Y cyfiawn a obeithia pan fyddo marw."

Os yw fy ngwaith ar ben,
A'r nos yn taenu'i llen,
Tydi, fy Nuw, a wyr.
Diolch am hyd y daith
A'r cynnal dyfal maith
Mewn mwyniant yn dy waith,
O fore hyd yr hwyr!

Noswylio 'rwyf yn awr
I godi gyda'r wawr,
Mewn gloewach, hoewach fyd.
Mae'n dda yr ochr hyn,
Daw aml lygedyn gwyn,
Beth wedi croesi'r glyn,
Lle bydd yn haf o hyd!

Y blinder oll ar ol,
A diogelwch col
Fy Iesu am danai'n dynn.
Ni raid ffarwelio'n hir,
A'r Ganan deg mor glir,
Cawn gwrddyd yno'n wir
Fy hoff anwylyd gwyn.

O hyfryd, hyfryd fydd
Yng ngwlad tragwyddol ddydd,
Heb ofni'r machlud mwy.
Y teulu yn gytun,
Heb fod yn ol yr un,
A'r Iesu yno'i hun,
I'w diogelu hwy.


R. MON WILLIAMS.

.