Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceiriog a Mynyddog.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hwyr," ac yn 1862 ei "Oriau'r Bore," lle mae pigion a goreu ei gân. Argreffir ei holl waith yn dair cyfrol ddestlus gan Meistri Hughes a'i Fab, Gwrecsam,— dylent fod yn llaw pob Cymro. Gadawodd Fanceinion am Gymru yn 1865, a daeth yn orsaf feistr i Lanidloes. Symudodd yn 1870 i Dowyn, Meirionnydd, a'r flwyddyn ddilynol, aeth i Drefeglwys i symud drachefn cyn diwedd y flwyddyn 1871 i Gaersws.

Bu farw Ebrill 23ain, 1887, a hûn ym Mynwent Llanwnog, ger Caersws. Ar y groes uwch ei fedd mae englyn o'i waith ei hun rydd ddarluniad byw o hono,—

Carodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd,
Carodd fyw'n naturiol;
Carodd gerdd yn angherddol:
Dyma ei lwch, a dim lol.

Yn ddiweddar, codwyd cof-adeilad hardd a gwasanaethgar iddo yn ei hen gartref ar lan yr Afon Ceiriog.

Carai Gymru'n angherddol, a gwnaeth a allai i godi'r Hen Wlad yn ei hol." Hoffai'r Eisteddfod, gwelai ddyfodol gwell iddi, a chymerai ddyddordeb digymysg ym mhob symudiad i hyrwyddo addysg Cymru. Rhoddodd enaid newydd yn alawon ein gwlad, drwy wneyd geiriau cyfaddas i'w canu arnynt. Gyda'r tyner a'r tlws yr ymhoffai ei Awen fwyaf, felly, perlau ei waith yw ei ddarnau lleddf.

Hyderaf y deffry y pigion hyn feddwl ieuenctid Cymru i ddarllen gweithiau llawn Ceiriog a Mynyddog, yn ogystal a gwaith beirdd rhagorol ereill ein Cenedl. Ar ddiwedd y gyfrol ceir cynllun—wers. Ymarferwch ateb y deuddeg gofyniad hyn—neu rai tebyg—ar bob. pennill. Mae'r Eirfa'n lled gyflawn.

J. M. EDWARDS.

ARANFA,
TREFFYNNON.