Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceiriog a Mynyddog.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CEIRIOG.

CANODD Ceiriog wrth fodd calon gwerin Cymru. Efe, o'n holl feirdd, yw'r mwyaf adnabyddus,— mae ei enw ar bob aelwyd a mwy o'i waith ar gôf y genedl na gwaith odid fardd. Fel bardd telynegol nid oes ei ail,—cân mor naturiol ag aderyn y gwanwyn. Mewn ffermdy, elwir Pen y Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, y ganwyd John Ceiriog Hughes, Medi 25ain, 1832. Enw ei rieni oedd Richard a Phoebe Hughes. Ychydig o fanteision addysg gafodd pan yn fachgen. Bu yn ysgol Nant y Clôg heb fod nepell o'i gartref am beth amser. Treuliodd ei febyd yn hapus yn chware ar hyd lethrau'r Berwyn,—" hefo'r grug a'r adar mân," neu ym murmur "Nant y Mynydd," ar ben ei "Garreg Wen." Ond nid bugail ar un o'r "hen fynyddoedd mawr" garai mor gu, oedd i fod, nac amaethwr i ddilyn yr "arad goch." Bu raid iddo adael mynydd a'i swyn am fwg a dwndwr tref Manceinion, ond rhoddodd ei hiraeth ar eu hol dinc swynol i'w gân. Gadawodd Lanarmon yn 1848 i fod yn argraffydd yng Nghroesoswallt, ond symudodd yn 1849 i Fanceinion, lle y bu hyd 1865.

Tra ym Manceinion, gweithiodd yn egniol i ddiwyllio ei hun drwy ddarllen llenyddiaeth ac ymgydnabyddu â rheolau barddoniaeth. Gwnaeth gyfeillion â llenorion goreu'r ddinas, yn eu mysg yr oedd Idris Fychan. Trwy ddylanwad yr aelwyd, natur, Cyfarfodydd Llenyddol a'r Ysgol Sabothol a'r llenorion hyn, daeth ei enw yn adnabyddus trwy Gymru. Bu ei "Myfanwy Fychan" yn fuddugol yn Eisteddfod Llangollen, 1858. Tybia rhai mai "Myfanwy Fychan" yw ei brif waith, tra dywed ereill mai "Alun Mabon " yw ei oreu—waith, ond mae'r ddwy'n em. Yn 1860, cyhoeddodd ei "Oriau'r