tybio taw cig hwrdd ydyw,' ebe finau; ac yr oeddwn yn siwr o 'mhwnc. Nis gallodd hithau wadu, ond ceisiodd droi yr ystori draw trwy ddywedyd, Wel, Twmi bach, mae cig hwrdd a Christ yn dda iawn." Ydyw, Siani,' atebais; ond nid oes dim Crist mewn mynu pris cig dafad am gig hwrdd. Crist a dweyd y gwir i mi. Rhaid i ni addef fod rhai o'r un epila Siani yn fyw eto, yn feibion ac yn ferched: maent yn son llawer am Grist, ond yn gwneyd i bob peth wasanaethu i'w helw eu hunain.
"Yr wyf yn cofio gair a ddywedodd Thomas Jones mewn society ar ol y bregeth. Dyma yw crefydd iawn (meddai); y gwirionedd yn ein catshio, a'r gwirionedd yn ein gollwng yn rhydd.' Bum yn meddwl lawer gwaith am y dywediad hwn. Mae llaweroedd yn ein gwlad yn ymbyncio oddeutu y gwirionedd, ond maent heb eu dal gan y gwirionedd erioed. Ac y mae eraill, ar ol cael eu dal gan y gwirionedd mewn argyhoeddiadau, wedi dianc yn rhydd trwy ddychymygion; nid y gwirionedd a'u rhyddhaodd. Mae y gwir Gristion yn cael ei argyhoeddiad a'i ddyddanwch o'r un man, sef e air y gwirionedd."