Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

addfwyn, gostyngedig, a hunan-ymwadol ydoedd ef yn y cwbl. Mae y Dosbarth ag oedd y Cyfarfod Misol wedi ymddiried i'w ofal yn teimlo hyd heddyw y golled am dano yn fawr iawn. A pha ryfedd? Yr oedd yn wr gonest a didderbyn wyneb. Mae colli dynion o'r fath hyn yn golled fawr.

Fel hyn y dywed un o'r brodyr henaf a pharchedicaf yn y weinidogaeth am Mr. Jones: Pan oeddwn, rai blynyddau yn ol, ar daith trwy barthau o Sir Gaerfyrddin, cefais gryn lawer o'i gyfeillach; ac yr oeddwn yn cael yr henafgwr parchus yn gyfaill caredig a siriol iawn. Rhoddai adroddiadau difyr am grefydd yn yr ben amserau; ac nid oedd ef, fel ambell grefyddwr taeog sydd yn dechreu myned yn hen, am i ni feddwl mai gwyn i gyd oedd crefydd yr oes a aeth heibio, ac mai du i gyd yw crefydd yr oes hon; ond dywedai fod rhai pethau gydag achos yr Arglwydd yn ein dyddiau ni yn rhagori ar yr amser yr oedd ef yn cychwyn gyda chrefydd, a rhai pethau gwerthfawr gyda'n tadau nad ydynt yr un fath gyda ni. Yn mysg pethau eraill dywedai, Yr oedd llawer o'r hen grefyddwyr yn gryn Antinomaidd, ac yr oedd yr hen bobl dda oedd yn blaenori yn cael llawer o flinder o'r herwydd. Yr wyf fi yn meddwl, bid a fyddo, fod ein heglwysi yn burach yn awr oddiwrth Antinomiaeth. Mi 'wedaf i chwi (eb efe) un hanes sydd yn dod i'm cof yn awr. Yr oeddwn, cyn dechreu pregethu, wedi myned i Association fawr Llangeitho, ac yr oeddwn i ac amryw eraill yn cael ciniaw, trwy dalu, yn nhŷ hen grefyddwraig selog. Yr oeddwn wedi myned, cyn ciniaw, i lawr i'r gegin; ac meddwn wrth wraig y tŷ, am y cig oedd wrth y tân, Beth yw hwn sydd genych, Siani? O, Twmi Jones bach,' ebe hithau, 'cig dafad anw'l yw e.' 'Rwy'n