Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei weinidogaeth. Nid oedd ei ddull yn fanteisiol i lawer; canys byddai rhai o'i frawddegau yn hirion ac aneglur, a thraddodai hwynt yn arafaidd a difywyd; ond yr oedd er hyny yn bregethwr gwerthfawr yn marn y rhan fwyaf astud, profiadol, a deallgar o'i wrandawwyr, er mai nid mynych y byddai yn pregethu yn y Cyfarfodydd Misol; ond yr oedd yn llenwi lle mawr yn y rhanau neillduol o honynt; a gwnai sylwadau buddiol iawn wrth ymddyddan â blaenoriaid a phregethwyr. Dangosai mewn modd dwys a difrifol mor angenrheidiol yw i bregethwr deimlo dros eraill, a gwybod am fod tân santaidd o'r cysegr yn enyn ei enaid mewn awydd am eu hachub. Sylwai fod ambell i bregethwr fel dyn yn dyrnu; yn dechreu yn oer, ac yn twymno wrth y gwaith, ac yn oeri yn fuan ar ol sefyll. Byddai yr hyn a ddywedai yn gyffredin yn bur bwrpasol, ac yn werth ei gofio. Nid oes hanes iddo dori cyhoeddiad erioed, na dyfod chwaith yn anmhrydlon ato. Dylynai yn ddyfal Gyfarfodydd Misol y sir, a mawr oedd ei ofal am yr achos, yn neillduol yn ei ddosbarth cartrefol. Fel brawd a chyfaill yr oedd yn onest yn ei gynghorion, ac yn ddiffuant yn ei rybyddion. Yr oedd ei grefydd, fel y dywedodd un, "heb un ond ynddi." Ei winllan gweithio ef trwy ystod ei weinidogaeth, braidd o'r dechreu i'r diwedd, oedd y sir yr oedd yn byw ynddi. Yr oedd yn ofalus iawn am foddion gras gartref; ni byddai byth yn absenol o'r society, cyfarfodydd gweddio, a'r pregethau, tra bu ef yn gallu. Yr oedd yn bur ofalus hefyd i fod yn holl gyfarfodydd yr Ysgol Sabbathol, yn enwedig yn ei ddosbarth cartrefol. Byddai yn cael ei ystyried yn un o'r rhai mwyaf cymhwys i ymweled â'r eglwysi cymydogaethol ar achosion neillduol. Ni byddai un amser yn barod i wrthdaro, ond