Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y PARCH. T. JONES, LLANDDAROG.

Ganwyd Thomas Jones yn y Foel, yn Mhlwyf Llanfihangel-rhosycorn, yn y flwyddyn 1771. Ymunodd â chrefydd yn lled ieuanc, yn Llanpumsaint, mae yn debyg. Bu wedi hyny mewn amryw o fanau yn cadw ysgol ddyddiol; yna symudodd i Landdarog, lle y dechreuodd bregethu pan tua 35ain oed, ac y trigfanodd hyd ddydd ei farwolaeth. Cafodd hir gystudd a nychdod, yr hyn a ddyoddefodd yn dawel a dirwgnach. Bu yn pregethu yn agos i 44 mlynedd. Neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Aberteifi yn y flwyddyn 1830. Boreu Sabbath, y 12fed o Awst, 1849, pan yn 78 oed, efe a aeth i dangnefedd, i fwynhau y Sabbath tragywyddol gyda'r Oen; canys efe a hunodd yn yr Iesu. Mercher canlynol am 1 o'r gloch aethpwyd â'i weddillion marwol i'r capel, lle pregethodd yr ysgrifenydd oddiwrth Dat. xiv. 13, a'r Parch. J. Jones, Llanedi, oddiwrth Esay xxvi. 19. Claddwyd ef yn mynwent y llan, yn ymyl bagad o hen bererinion Llanddarog; lle y gorphwys yn dawel hyd foreu caniad yr udgorn, pryd y cyfodir ef yn anllygredig ar ddelw ei anwyl Briod. Rhoddodd yn ei fywyd (nid yn ei ewyllys ddiweddaf) er arbed y draul, haner cant punt i Drysorfa y Pregethwyr. Gadawodd weddw ar ei ol, yr hon yn fuan a'i dylynodd i'r ddinas gyfaneddol.

Yr oedd crefydd Mr. Jones yn ddysglaer, a'i holl fuchedd yn addas i wr Duw. Fel gweinidog yr efengyl, yr oedd ei bregethau yn iachus ac ysgrythyrol. Er na chyfrifid ef yn bregethwr mawr, yr oedd y sawl a fyddai yn esgud i wrandaw yn cael adeiladaeth o dan