Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wr. Yn ei gystudd olaf, gofynodd hen frawd iddo pa fodd yr oedd yn teimlo; atebodd yntau yn siriol fod y perygl wedi ei symud.

Er nad oedd Mr. Bowen yn cael ei ystyried yn areithiwr hyawdl, eto efe a draddodai y genadwri am y groes gyda dwysder a difrifoldeb mawr; ac fe allai nad llawer oedd yn uwch mewn ffyddlondeb. Yr oedd yn ddarllenydd dyfal, yn wr o ddeall da, ac yn gristion gloyw. Fel dyn yr oedd yn siriol a hawddgar, ac yn gyfaill o'r iawn ryw. Yr oedd yn bur ofalus am yr eglwysi, ymneillduol y rhai cartrefol, ac ni byddai nemawr byth yn absenol o Gyfarfodydd Misol y Sir. Gofynid ei farn y rhan amlaf ar faterion y cyfarfodydd neillduol, a byddai ei sylwadau yn gyffredin yn bur bwrpasol. Gellir dywedyd am dano, Yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth. Cafodd ei ran o ofidiau y bywyd hwn; er hyny yr oedd y cwbl yn cydweithio er daioni, i'w addasu a'i gymhwyso i wlad nad oes ynddi ddim gofid na thrallod i'w gyfarfod byth mwy. Aeth "i mewn i lawenydd ei Arglwydd."