Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cenadon Hedd.

Y PARCH. D. BOWEN, LLANSAINT.

GANWYD David Bowen mewn lle a elwir Aberhenllan, yn mhlwyf Abernant, yn y flwyddyn 1770. Yr oedd ei dad yn glochydd yn y llan. Galwyd ef i'r winllan yn foreu, ac ymunodd a'r eglwys Fethodistaidd yn Meidrim, lle yr oedd ar y pryd yn cyfaneddu; ac wedi profi daioni yr Arglwydd i'w enaid ei hun, teimlodd awydd am i eraill gael profiad o'r un peth, a chymhelliad cryf i berswadio dynion i wneuthur derbyniad o'r iachawdwriaeth fawr yn Nghrist. Y bregeth gyntaf, mae yn debyg, a bregethodd, oedd yn Cydwely. testun oedd Mat. v. 4. Efe a neillduwyd i weinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd yn Nghymdeithasfa Aberteifi, yn y flwyddyn 1830; a bu yn ddiwyd a llafurus gyda phob rhan o waith y weinidogaeth, mor bell ag y goddefai ei iechyd, hyd ddydd ei farwolaeth. Parhaodd ei gystudd yn hir, yr hyn a ddyoddefodd yn amyneddgar; ond pan gaffai ychydig seibiant ni byddai yn segur. Pregethodd y bregeth olaf yn Llandyfeiliog, Medi 24, 1848, oddiar Dat. ii. 19. Bu farw y 10fed o'r mis canlynol, yn 78 oed. Pregethwyd yn ei angladd gan y Parch. D. Humphreys, a gosodwyd yr hyn oedd farwol i orphwys yn mynwent St. Ismael, hyd foreu yr adgyfodiad, pryd y daw y corph blinedig i fyny yn anllygredig, ar ddelw ei Bryn-