Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odd lawer o honynt. Yr oedd hymnau y Parch. W. Williams ganddo ar ei gof fel rhyw orlif wrth law yn wastadol; ddim ond codi y llifddor, byrlyment allan yn ddibendraw. Wedi eu dysgu byddai yn myned i'r llyfr hymnau i'w darllen; trwy hyny daeth i ddarllen y Bibl yn lled dda, heb un fantais arall. Aeth ryw dro i wrando y Parch. Gabriel Rees, Pant-howell (B.), yn pregethu yn Salem, ger St. Clears. Ymaflodd y gwirionedd gyda nerth ac awdurdod mawr yn ei feddwl, nes oedd yn methu gwybod pa fodd i fyned adref. Bu felly dan wasgfa yn agos i ddwy flynedd, heb benderfynu tori trwyddi; ond trymach, trymach oedd y baich yn myned, nes iddo gredu mai "yr Arglwydd Efe sydd Dduw," ac ar ei ol ef yr ai. Cafodd ei gymhell gan wahanol enwadau, ond yr oedd gogwydd ei feddwl at y Methodistiaid; ymunodd â hwynt yn Bancyfelin. Wrth ddyfod adref dydd Sadwrn, pan derbyniwyd ef yn gyflawn aelod, gofynwyd iddo gan hen wraig oedd yn byw yn Penbigwrn, ger y lle uchod, a ydoedd wedi ei gyflawn aelodi. Atebodd yn wylaidd iawn ei fod. "Wil, Wil," ebe yr hen wraig, "mae gyda fi un peth yn dy erbyn di; yr wyf wedi clywed dy fod ar fwriad i briodi, a hithau (yr eneth) yn y byd, a thithau yn yr eglwys; 'nawr un o ddau beth raid i ti wneyd." Effeithiodd hyny yn fawr ar ei feddwl; methodd gysgu trwy y nos; and fe benderfynodd fod gadael yr eneth yn well na gadael crefydd, a'u gadael hi a wnaeth am agos i haner blwyddyn, heb wneyd yr un gyfeillach â hi. Yn mhent yr ysbaid hyny o amser cymerodd diwygiad mawr le yn Meidrim a'i chyffiniau, pryd y cafodd yr eneth uchod y fraint o ddyfod i mewn i'r eglwys; trwy hyny agorodd Rhagluniaeth ddoeth y drws iddynt fyned i'r sefyllfa briodasol, heb roi drygair i grefydd na dolurio crefydd-