Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyr; ond cyfamod i gael ei dori oedd hwn. Daliodd o ddeg i ugain mlynedd, pryd y bu hi farw; ond digon tebyg fod rhwng eu heneidiau â Duw gwlwm cryf na ddetyd byth.

Cafodd yntau ei ddwyn i amgylchiadau pur isel mewn pethau bydol. Cymerodd dyddyn ger Cwmbach, ac yr oedd ardreth fawr arno; trwy hyny aeth mor dlawd nes gorfu arno wneuthur arwerthiad cyhoeddus. Ar ddydd yr arwerthiad dywedodd, a'r dagrau ar ei ruddiau, "Nawr, ofynwyr, mae y cwbl i'ch llaw; ond un peth wyf yn deisyf arnoch, atolwg, gadewch i mi gadw y Bibl." Yr oedd hyn yn dangos fod gwirioneddau y Bibl wedi eu cerfio gan Ysbryd Duw ar ei galon, a'r ffrwyth o hyny yn ymddangos yn ei fywyd gonest a diddichell.

Cafodd ei anog gan eglwys Meidrim i ddechreu pregethu; ufuddhaodd i'r alwad, a bu yn ffyddlon yn ol ei allu am agos i bedair blynedd ar ddeg ar ugain. Yr oedd y rhan ddiweddaf o'i oes yn lled gysurus yn mhob ystyr, ond pan oedd ei gorph yn prysur ddadfeilio; cafodd y fraint o ddyfod i foddion gras hyd y diwedd. Yr oedd profion ynddo ei fod yn un o'r cyfiawnion, o herwydd yr oedd ei lwybr yn myned oleuach, oleuach, fel yr oedd yn nesau i wlad y goleuni. Bu farw Rhagfyr 6, 1849, yn 80ain oed. Yr oedd ei fywyd santaidd yn ddigon o brawf iddo gael ei ddwyn gan angylion i fynwes Abraham. Dau ddiwrnod cyn ei ymadawiad cafodd ei ddwyn i ben Pisgah i gael golwg ar y wlad bell, a'r Brenin yn ei degwch. Cafodd Moses olwg ar wlad yr addewid, ond ni chafodd fyned iddi; ond cafodd W. W. fyned i wlad llawer iawn gwell na hono; ac y mae y ddau yn awr gyda'u gilydd yn cydwledda heb un gofid. Y Llun canlynol ymgasglodd tyrfa fawr yn