Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nghyd i dalu eu teyrnged olaf o barch iddo, trwy ganlyn ei ran farwol i dy ei hir gartref. Cyn cychwyn o'r tŷ, darllenodd a gweddiodd un o'i frodyr crefyddol; yna cychwynwyd tua'r gladdfa. Aed a'i gorph i gapel y Tyhen, i'r hwn y perthynai. Pregethodd y Parch. Jonah Edwards, Cwmbach, yn dra phriodol ar yr achlysur. Ymadawodd y gynulleidfa mewn teimladau galarus ar ol eu hanwyl dad, gan ofidio yn ddwys am na chaent weled ei wyneb ef mwyach. Yr oedd ei farwolaeth yn golled fawr i'r eglwysi cymydogaethol, a'r wlad yn gyffredinol; ond yn neillduol i eglwys y TyhenCollwyd canwyll oedd yn llosgi, a halen oedd yn halltu.

Yr oedd W. W. yn hynod am feithrin crefydd bersonol; darllenai lawer ar y Bibl, ac ymroddai i fyw mewn cymundeb a'r Arglwydd. Byddai yn hynod o barod i ymddyddan am bethau ysbrydol. Siaradai mewn cyfarfodydd neillduol nes peri teimlad a gwres crefyddol yn mhob calon ystyriol yn y lle. Yr oedd yn hynod ddidderbyn wyneb; dywedai wrthynt yn ddiweniaith am eu beiau, a chynygiai eu hadnewyddu a'u gwellhau trwy y gwirionedd. Pleidiai y ddysgyblaeth A'i holl galon; a byddai ambell un oedd yn caru ei feluschwantau yn fwy na charu Duw, yn tramgwyddo cymaint wrtho nes ei gablu; ond er hyn yn parhau i lefaru yr oedd ef, pa un a wnaent hwy ai gwrando ai peidio. Yr oedd cynyddu mewn gras a phrofiad ysbrydol yn fwy o beth ganddo na dim arall, ac yr oedd pawb o'i gwmpas yn gorfod dweyd ei fod yn ddyn duwiol. Yr oedd geiriau Duw yn well ganddo na'i ymborth angenrheidiol. Yr oedd ffyrdd crefydd yn ffyrdd hyfrydwch iddo, a'i holl lwybrau yn heddwch. Byddai yn pregethu yn fywiog; yr oedd wrthi a'i holl egni. Yr oedd ganddo olygiadau clir am holl