Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bynciau sylfaenol Cristionogaeth. Ni byddai byth yn blino dynion â meithder, ond byddai bob amser yn crynhoi ei gynghorion i ychydig o eiriau cynwysfawr ac ysgrythyrol. Yr oedd yn wastad yn dyrchafu gogoniant y Cyfryngwr, a'i ddymunoldeb fel Gwaredwr i bechaduriaid.

MR. THOMAS JONES, HENDRE

GANWYD T. Jones yn mhlwyf Llanon; claddwyd ei dad pan yr oedd yn bedair blwydd oed. Yr oedd ei fam yn bur isel o ran ei hamgylchiadau; er hyny ymdrechodd i roddi ychydig o ysgol iddo, yr hyn a fuo wasanaeth mawr iddo byd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd gwr o'r enw John Davies yn cadw ysgol yn y gymydogaeth, yn y lle a elwir Capel Efan; at yr hwn anfonodd ei fam wrthddrych ein cofiant i gael ei addysgu. Yr oedd y gwr hwn yn gynghorwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Cynghorwr y galwent un yn yr amser gynt a fyddai yn pregethu heb gael ei ordeinio gan esgob. Gan y gwr a enwyd uchod y cafodd ei hyfforddi gyntaf mewn pethau crefyddol. Diau y dylai rhieni ofalu i ba le y danfonant eu plant i gael eu haddysgu. Y mae llawer fel pe baent heb un egwyddor yn y mater hwn; danfonant eu plant i ddysgu catecismau, y rhai sydd yn hollol gyfeiliornus. Dylem ddeall fod y plant bob amser mor barod i dderbyn hyfforddiadau yr ysgolfeistr gyda golwg ar bethau crefydd ag y maent i dderbyn eu haddysg gyda golwg ar rifyddiaeth, &c. Mae mwy o ddefnydd credu mewn plant nag sydd o ddefnydd ymresymu; credant bob peth a