Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

glywant, am hyny dylai y rhieni ofalu pa le y mae eu plant yn cael eu haddysgu.

Pan oddeutu 16 oed, aeth T. Jones i wasanaethu i le nid yn mhell o'r gymydogaeth, at rai oedd yn perthyn i'r Bedyddwyr. Yma cafodd gymhelliad i fyned i gymanfa oedd i gael ei chynal yn y Felinfoel, ger Llanelli. Safodd y testunau a darnau o'r pregethau a glywodd yno ar ei feddwl hyd ddydd ei farwolaeth. Ni wyr penau teuluoedd pa faint o ddaioni a allant wneyd wrth gymhell eu tylwyth i wrando yr efengyl. Ychydig o amser ar ol hyn torodd diwygiad grymus allan yn Nghapel Efan, a Brandy-way. Disgynodd pethau yr efengyl mewn modd grymus ar feddwl Thomas Jones y pryd hwn; a phenderfynodd roddi ei hunan i'r Arglwydd, ac i'w bobl. Pan yn y teimlad hwn, arweiniwyd ef gan y rhagluniaeth i Bentwyn, Llanon, lle yr arosodd am ryw dymhor. Cyfarfyddodd a theulu yma o'r un meddwl ag ef ei hun, yr hyn fu yn fantais fawr iddo feithrin ysbryd crefydd. Oddiyma efe a aeth i le arall yn y gymydogaeth o'r enw Tyllwyd, lle yr oedd cymdeithas grefyddol wedi ei sefydlu rai blynyddau cyn hyny. Gwelwn fod gan wrthddrych ein cofiant hyny o grefydd er yn fachgen, fel ag i ddewis y lleoedd mwyaf manteisiol i grefydda. Priododd â Rachel, merch benaf John Owens, Tyllwyd, o'r hon y cafodd chwech o blant. Pan oedd oddeutu 37 oed dechreuodd ar waith y weinidogaeth dan lawer o anfanteision. Fel dyn yr oedd yn gyffredin yn addfwyn, gostyngedig, a hawdd ei drin. Nid oedd yn ddyn cas ac afrywiog, fel llawer. Yr oedd yn un hynod mewn gofal am ei deulu. Yr oedd yn ymdrechu na chai dim ei wastraffu mewn un modd. Dewisodd fyw yn brin lawer