gwaith wrth fagu ei blant, yn hytrach na phwyso ar neb. Ni allai oddef y meddylddrych o fyned i ddyled. Gwell oedd ganddo ymwasgu na myned i ymofyn benthyg unrhyw beth gan gymydog, a dangosai weithiau yr ewyllysiai i eraill wneyd yr un modd. Yr oedd yn rhagori ar lawer o ran ei amgyffrediadau. Fel Cristion, gallem ei osod yn y rhes flaenaf. Gweddiai lawer yn y dirgel. O ran ei ymarweddiad allanol, yr oedd yn ddiargyhoedd. Yr oedd yr achos yn ei gartref yn agos iawn at ei galon. Cyfeiliornem pe dywedem ei fod yn ddibechod; ond gallem ddywedyd yn ddiragrith ei fod mor ddibechod a neb a adwaenem. Da fyddai pe llenwid yr holl eglwysi a'i gyffelyb.
Fel pregethwr yr oedd yn fuddiol ac yn adeiladol. Nid ydym wedi clywed iddo gael llawer o odfaon â phethau annghyffredin yn tori allan ynddynt; eto byddai y gwirioneddau yn myned o'i enau rai gweithiau gydag awdurdod mawr; ac y mae llawer yn tystio iddynt gael llesâd laweroedd o weithiau wrth ei wrando. Yr oedd yn gosod allan ei feddwl yn eglur, fel y gallasai pawb ei ddeall. Ei sylwadau ar ei destun oeddynt syml atharawiadol. Yr oedd ei bregethau y rhan amlaf yn ymarferol, ond dywedai yn fynych wrth bregethu, fod colledigaeth dyn i gyd o hono ei hun. "Nid oes gan y damnedigion yn Gehena ddim lle i feio ar y Jehofah;" o'r ochr arall, "Mae cadwedigaeth dyn i gyd o ras heb ddim o'r dyn ei hunan." Yr oedd yn hoff iawn o son am yr arfaeth a'r cynghor tragywyddol; llawer gwaith y dywedodd, "Ni wn i sut i ddywedyd yn y fan yma, ond dywedaf fel hyn: fe fu rhyw gynghor rhwng y Personau bendigedig yn yr Hanfod santaidd, am godi pechadur i'r lan." Nid oedd awdwyr eraill yn llefaru ond