Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychydig drwy ei enau ef. Byddai ei bregethau bob amser yn hollol wreiddiol. Diau y buasai yn rhagorach duwinydd pe buasai yn ymgynghori mwy â meddyliau dynion eraill. Pe buasai yn coethi ei feddwl yn moreu ei oes, a phe buasai Rhagluniaeth yn caniatau iddo ddarllen a myfyrio mwy, diau y buasai yn addurn i'w genedl. Teithiodd lawer drwy Ddeheu a Gogledd Cymru gyda gwaith y weinidogaeth. Nid yn aml er hyny y byddai yn absenol o'r Cyfarfodydd Misol a'r Cymanfaoedd. Yr oedd yn teimlo y fath ddyddordeb yn holl gyfarfodydd y Cyfundeb, fel na allai fod yn absenol heb fod mewn teimladau gofidus. Er nad oedd pob peth ynddo a gyfrifir yn fawr gan ddynion, eto yr oedd ynddo lawer o bethau a gyfrifir yn fawr gan Dduw mewn dyn ar y ddaear. Yr oedd y brawd anwyl hwn, a Jones, Llanddarog, a Bowen, Llansaint, yn gyfeillion mawr iawn; teithiasant lawer gwaith gyda'u gilydd wrth fyned i, a dyfod o Gyfarfodydd Misol y Sir. Cawsant ill tri fyw i gyrhaeddyd yr un oedran cyn ymadael â'r ddaear. Er nad oeddent ill tri yn bregethwyr mawr yn nghyfrif dynion, yr oeddent yn fawr yn nghyfrify Nefoedd. Yr oedd eu bywydau santaidd yn profi bod eu nod yn uchel. Deuent ill tri, fel y dywedwyd, i'r Cyfarfod Misol, a da iawn oedd gan bawb eu gweled yn dyfod, er nad oeddynt ond anaml iawn yn gyhoeddus fel pregethwyr. Hen weddiwyr hynod oeddent hwy ill tri; dal breichiau eu brodyr a'u gweddiau y byddent hwy. Mae cyfarfod 10 o'r gloch drosodd. Wele hwy yn myned adref ar gefnau eu ceffylau, a'r rhai hyny yn dda eu gwedd bob amser, a'u cyrph wedi eu gorlwytho â dillad. Er na fuont yn pregethu am 10 a 2, fel y dywed un, eto mae rhyw fawredd arnynt yn eu hymadawiad, fel na allai neb eu diystyru. O yr hen bregeth-