wyr gonest a diddichell. Bydded i ninau eu hefelychu yn y pethau hyn.
Bu farw T. Jones, Ionawr y 16eg, 1851, yn 78 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu gyda'r Trefnyddion Calfinaidd am bymtheg mlynedd ar ugain. "Efe a â i dangnefedd; hwy a orphwysant yn eu hystafelloedd, sef pob un a rodio yn ei uniondeb."
MR. J. GRIFFITHS, LLANPUMSAINT.
GANWYD y brawd hwn yn Sir Aberteifi; daeth i ardal Llanpumsaint i wasanaethu pan yn ieuano. Ymunodd â chrefydd pan oedd rhwng dwy a phedair ar ugain oed. Dechreuodd bregethu pan yn 30 oed. Yr oedd Josuah Griffiths yn un hynod yn mhlith y saint, yn ofni Duw yn fwy na llawer. Rhagorai yn mhlith lluaws ei frodyr mewn diniweidrwydd, ffyddlondeb, a chywirdeb. Nid oedd ei dalentau ond bychain; ond os un neu ddwy a dderbyniodd, gwnaeth hwynt yn ychwaneg. Yr oedd iddo le yn mhlith ei frodyr, ac adnabyddai yntau y lle oedd iddo yn eithaf da. Cerid ef yn fawr gan yr holl frawdoliaeth, a chan y teuluoedd yr arferai fyned iddynt. Bu farw fel y bu fyw, a'i bwys ar ei Anwylyd, Mawrth 2, 1851, yn 54 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu pedair blynedd ar ugain. Pregethwyd yn ei angladd gan y Parch. D. Humphreys, oddiwrth 2 Tim. iv. 7, 8. Gwnaeth y Parch. Mr. Powell, ficar y plwyf, sylwadau pur darawiadol, ar ol darllen gwasanaeth y claddedigaeth yn y Llan, yn debyg fel y canlyn:-"Yr wyf yn teimlo yn ddyledswydd arnaf ar yr achlysur hwn i