Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddweyd ychydig eiriau gyda golwg ar y brawd ymadawedig. Cafodd yr holl ardalwyr golled fawr ar ei ol Darfu iddynt golli llawer o weddiau taerion drostynt eu hunain a'u plant. Fel dyn a chymydog yr oedd yn hynod o ddiniwed, ffyddlon, a chywir. Yr oedd yn wr o ymddiried. Fel gweinidog yr efengyl yr oedd yn llafurus, difrifol, a ffyddlon, yn ol ei ddawn. Os darfu i neb edrych neu ddweyd dim yn isel am ei weinidogaeth oblegyd bychandra ei ddawn, cânt deimlo gofid am hyny ryw bryd, naill ai yma neu wedi myned oddi yma." Yr oedd y sylwadau uchod yn cael effaith fawr ar y dorf oedd wedi ymgasglu i'w hebrwng i'w fedd. Yr oedd gwrthddrych ein cofiant yn gymydog i'r offeiriad. Dyma ysbryd rhydd ac efengylaidd, onide? Yr oedd J. Griffiths yn ddyn gwir dduwiol. Ymadawodd a'r byd ag arogl hyfryd ar ei ol, a diau iddo gael ei groesawu gan ei Arglwydd, trwy ddywedyd wrtho, "Da, was da a ffyddlon, buost ffyddlon ar ychydig; dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."

Yr oedd gan y brawd hwn feddwl uchel iawn am yr Ysgol Sabbathol, ac am ei deiliaid. Cyfarchai hwynt yn wastad yn serchiadol iawn. Pan yn pregethu ryw dro ar y gair hwnw, "Gan wybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef," &c., wrth gyfarch plant yr ysgol, dywedai, "Fe wyddoch chwi, blant yr ysgol Sabbathol, lawer, ond ni wyddoch ddim o hyn." Byddai yn cofio yn wastad yn ei weddiau am ddeiliaid yr Ysgol Sabbathol; a gweddiau yn gynes iawn hefyd dros y cleifion.