Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y PARCH. J. BOWEN, LLANELLI.

Yr oedd y Parch. J. Bowen yn adnabyddus yn y dywysogaeth fel pregethwr sylweddol, duwinydd galluog. Christion gloyw. Ganwyd ef yn nhref Llanelli, Swydd Gaerfyrddin, ar y 25ain o Ragfyr, 1789; a bu farw Awst 16, 1852, yn driugain a thair oed, wedi bod yn pregethu yr efengyl am un ar ddeg ar ugain o flynyddoedd. yn Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Gadawodd weddw a phump o blant, sef dau fab a thair merch, yn yr anialwch i alaru eu colled. Ei rieni oeddynt Walter ac Ann Bowen. Ei dad yn enedigol o Lanelli, a'i fam o Aberteifi. Cafodd ei rieni bump o blant, ond maent oll wedi marw yn bresenol. Dygai ei dad yn mlaen yr alwedigaeth o ddilledydd a masnachydd, ac yr oedd o ran ei amgylchiadau yn dra chysurus. Yr oedd ei dad yn ddiacon gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Llanelli, ac efe, yn nghydag un neu ddau, eraill fuont offerynol i sefydlu yr achos yn y lle. Gweler eu hanes yn "Methodistiaeth Cymru."

Cafodd Mr. Bowen gymaint o fanteision addysg a nemawr o ieuenctyd Llanelli y pryd hwnw, a gwnaeth y defnydd goreu o honynt. Yr oedd yn gyfrifydd penigamp, a medrai ar law-ysgrifen oedd yn ddiarebol dda. Ymhoffodd mewn darllen yn dra ieuanc; byddai beunydd wrth ei lyfrau neu y fasnach. Daeth yn fuan yn hyddysg yn holl amgylchiadau trafnidaeth ei rieni. Ymddengys fod Rhagluniaeth wedi ei gynysgaeddu â chymhwysderau neillduol ar gyfer amgylchiadau a'i cyfarfuasant; oblegyd cyn ei fod yn gyflawn ddeng mlwydd oed bu farw ei dad, a disgynodd gofalon y