fasnach ar ei fam, yr hon oedd eisoes â'i dwylaw yn rhwym gyda'i theulu; ond trwy ddiwydrwydd, gofal, o gwybodaeth John, bu yn alluog i'w dwyn yn mlaen yn lled gysurus. Yr oedd yn arferiad gan fasnachwyr Llanelli y pryd hwnw i fyned i Ffair Bryste unwaith yn y flwyddyn i brynu nwyddau. Daeth y tymhor i fyny; ond yr oedd ei fam, o herwydd gofalon teuluaidd, yn analluog i fyned, ac anfonodd John â swm lled dda yn ei logell. Masnachydd cyfrifol, wrth ganfod llanc mor ieuanc ar neges mor bwysig, mor bell o dref, a wnaeth brawf ar ei gymhwysderau; ac, er ei fawr foddlonrwydd, cafodd allan nad gorchwyl hawdd fyddai twyllo John, ac anrhegodd ef â phenadur.
Arferai ei fam ddywedyd fod rhyw beth ynddo yn wahanol i'r plant eraill pan yn ieuanc iawn, a pharhaodd felly yn nodedig o ofalus a diwyd. Yr oedd o dymher naturiol fwynaidd a siriol, yn rhoddi ufudd-dod parod idd ei fam, ac anaml y gwelid gwg ar ei wynebpryd. Darllenai lawer, ond nid un amser ar draul esgeuluso y fasnach. Yn y flwyddyn 1803, pan yn 14 oed, derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Gellyon, capel bychan cyntaf y Trefnyddion Calfinaidd yn nhref Llanelli, Y flwyddyn ganlynol daeth yn gyflawn aelod. Ryw amser rhwng pymtheg a deunaw oed aeth i wasanaeth Mr. J. Roberts, masnachydd cyfrifol o'r dref, lle y treuliodd lawer o flynyddau, ac yr enillodd ymddiried a pharch.
Yn mhen ysbaid o amser cymerodd Mr. Roberts ef yn bartner, a pharhaodd felly hyd farwolaeth Mr. Roberts, yn 1824; yna dygodd y fasnach yn mlaen ei hun. Pan yn 24 oed, neillduwyd ef yn ddiacon ac yn ysgrifenydd yr eglwys; a pharhaodd i weinyddu yr olaf hyd oddifewn i ychydig i ddiwedd ei oes. Meddai y cymhwysderau anhebgorol i fod yn ysgrifenydd da.