Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yn neillduol am brydlonrwydd a threfnusrwydd gyda phob peth. Dosbarthai ei amser yn y fath fodd fel y byddai ganddo hamdden at bob gorchwyl. Ei arwyddair ydoedd, "Amser i bob peth, a phob peth yn ei amser," ac felly yr oedd gydag ef. Cyflawnai ei holl ymrwymiadau yn brydlon a ffyddlon. Byddai yn ddiwyd a gofalus gyda'r fasnach, ac anaml y collai un moddion o ras; eto darllenai a myfyriai lawer, yn enwedig ar bynciau sylfaenol y grefydd gristionogol; ond byddai ganddo ei hoff awduron, fel y cenir yn ei farwnad

"Ti astudiaist gyda'r egni
A'r manylrwydd mwya' ma's
Egwyddorion Brown a Charnock,
Cedyrn egwyddorion gras."

Trwy ei ddiwydrwydd diflino ar faesydd llenyddiaeth daeth yn fuan yn feddianol ar helaethach gwybodaeth na nemawr o'i gyfoedion. Yr oedd hefyd yn ddyn ieuanc gwylaidd, mwynaidd, a hynaws; a barnodd yr eglwys fod ynddo gymhwysderau neillduol at waith y weinidogaeth. Ond pan ddatguddiwyd hyn iddo, ni fynai gydsynio er dim; dadleuai annghymhwysder at waith mor bwysig; modd bynag, ar ol llawer o anogaethau o du yr eglwys, a gwrthwynebiadau o'i du yntau, torwyd y ddadl, ac esgynodd i'r pwlpud dydd Nadolig, 1821, pan yn 32ain oed i'r diwrnod; a mawr y boddlonrwydd a gafodd yr eglwys ynddo. Daeth yn fuan yn bregethwr tra chymeradwy. Cafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa Aberteifi, yn mis Awst, 1830, yn nghyda saith eraill, y rhai ydynt oll, oddieithr y Parch. T. Phillips, Henffordd,

Yn eu hargel wely obry,
Lle mae pawb mewn bedd yn bod."

Clywyd ef yn crybwyll lawer gwaith am y Gymanfa