Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hon, fod rhyw fawredd anarferol ar weinidogaeth y gwas enwog hwnw i Grist, Elias o. Fön. Pregethai Mr. Bowen gan mwyaf yn athrawiaethol; ond er hyny nis gallai y rhai a garent bregethau ymarferol lai na'i hoffi. Ni byddai ef un amser yn ymbalfalu mewn tywyllwch, eithr trinini ei bwnc yn oleu, dengar, ac adeiladol. Treiddiai i mewn i athrawiaethau gras, a dadblygai ei dyfnion bethau gyda deheurwydd a mawredd arbenig. Eglurai natur cyfamod y prynedigaeth, a sefyllfa y Personau dwyfol yn y cyfamod hwnw, gyda godidawgrwydd. Yr oedd yn meddu golygiadau goleubwyll ar y ddeddf a'i manol ofynion, a sefyllfa druenus dyn yn wyneb y ddeddf hono, yn nghyda threfn fendigedig y Duwdod i gyfiawnhau pechadur euog. Dyma ei hoff bynciau; dyma lle byddai ei athrylith yn ymddysgleirio ogoneddusaf; dyma lle y byddai ef ei hun yn mwynhau, ac yr arlwyai wleddoedd danteithiol i'w wrandawyr. Yr oedd mor odidog ar y pynciau crybwylledig. fel mai nid anmhriodol y cyfenwyd ef weithiau yn "athronydd trefn iachawdwriaeth." Traethai ar bynciau eraill, ac ni theimlai wrthwynebiad i bregethau ymarferol; ond mai fel arall y tueddwyd ei feddwl ef. Ei bwynt fyddai bob amser i greu awydd mewn dynion i ystyried ac amgyffred, ac i weithredu oddiar wybodaeth. Arferai ddywedyd yn aml mai i'r graddau y byddai y Cristion yn myfyrio ar, ac yn deall trefn iachawdwriaeth, y byddai yn mwynhau ei chysuron.

Lluddiwyd ef gan ei fasnach i fod yn bregethwr diarebol a theithiol; ond wrth droi tudalenau ei ddydd-lyfr, yr hwn sydd, fel pob peth arall o'i eiddo, yn dra destlus a dyddorol; yn cynwys pob lle a phryd y pregethodd; ei destunau ac enwau y rhai a fedyddiwyd ganddo, o'r