Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dydd y dechreuodd hyd ei farwolaeth. Cawn iddo fod ddwywaith yn Mhryste; ei fod wedi teithio rhanau o bob sir yn y Deheubarth, ac yn neillduol y rhan isaf o Forganwg; ond o fewn terfynau Sir Gaerfyrddin y llafuriodd yn benaf. Ni byddai ef un amser yn osgoi yr eglwysi gweiniaid, mewn amryw o ba rai rhoddodd ei lafur yn rhad. Ni dderbyniodd unrhyw gydnabyddiaeth am ei holl lafur cartrefol chwaith hyd oddifewn i ychydig flynyddau cyn marw, pan trodd amgylchiadau ei fasnach yn annymunol, yr hyn a achlysurwyd trwy roddi gormod o ymddiried i fan-fasnachwyr, a chael colledion dirfawr ar eu dwylaw. Bu hyn yn brofedigaeth chwerw iddo, ac yn llawer o rwystr i'w lafur gweinidogaethol.

Yr oedd Mr. Bowen yn fawr ei ofal am achos y Gwaredwr yn ei holl ranau, ac yn enwedig yn gartrefol. Cynysgaeddwyd ef â synwyr cyffredin cryf, a meddwl bywiog a threiddgar. Yr oedd rhyw fawredd naturiol arno, fel nad allai dyeithriaid ddyfod yn rhy agos ato; nid ffurfiol ond naturiol oedd hyn. Ni byddai yn amleiriog, ond yn foneddigaidd a pherthynasol. Gwellhäai wrth ymarfer ag ef. Y rhai a'i hadwaenent oreu fyddai yn ei garu fwyaf. Byddai yn dra gochelgar yn newisiad ei gyfeillion; ac ni chai neb fyned i'w fynwes cyn ei brofi. Wedi dewis cyfaill, byddai yn ffyddlon iddo. Gellid ymddiried i'w air, a phwyso ar ei addewid. Medrai gadw cyfrinach, a ffrwyno ei dafod hefyd. Yr. oedd yn siriol, rhydd, a difyrus, pan yn mhlith ei gyfeillion. Yr oedd llawer yn myned i ymgynghori ag ef ar achosion o bwys, a byddai ei gyfarwyddiadau a'i gynghorion yn briodol a synwyrlawn. Meddai ymddiried yr eglwys, oblegyd ni weithredai oddiar dystiolaeth naill-ochrog, ac ni feithrinai ysbryd plaid; ond ym-