Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

estynai bob amser at gywirdeb a chyfiawnder, heb ofni gwg y naill na phorthi gwen y llall. Yr oedd yn Gristion call; meddai lygad eryr, a thrwy ei ddoethineb galluogwyd ef i fyw mewn heddwch yn wastadol. Yr oedd yn caru tangnefedd. Byddai yn hynod adeiladol yn y cyfeillachau eglwysig. Yr oedd ei ymddyddanion efengylaidd a nefolaidd yn swyno, yn toddi, ac yn asio teimladau pawb yn un.

Aml y dywedid, "Da oedd i ni fod yno." Cyfarchai yr ieuenctyd yn aml; gorfoleddai wrth eu gweled yn sychedig am wybodaeth fuddiol, ac anogai hwynt bob amser i fod yn llafurus. Darllenai lawer, a sylwai yn fanol ar helyntion ac arwyddion yr amserau.

Yr oedd yn dra selog a bywiog gyda'r Ysgol Sabbathol; anhawdd fyddai i neb i gael esgus a'i boddlonai dros beidio dyfod iddi. Rhoddai bob cefnogrwydd hefyd i fod yn effro ac yn ymdrechgar gyda'r ysgol gan, i ddysgu yr egwyddorion i'r ieuenctyd. Fel hyn parhaodd yn fywiog, iraidd, ac ieuangaidd ei ysbryd hyd ddiwedd ei oes.

Ni chafodd Mr. Bowen hir gystudd; ond yr oedd arwyddion amlwg er ys cryn amser fod ei babell yn dadfeilio, a'i ysbryd yn addfedu i wlad well. Byddai yn codi o'i wely fynychaf bob dydd, ac yn cyfrinachu yn siriol â'r cyfeillion a ymwelent ag ef. Yr oedd amser Cymdeithasfa Llanelli yn awr yn agosâu, ac yn y cyfwng hwn byddai yntau yn ddiwyd i drefnu a darparu ar ei chyfer. Anogai ei frodyr hefyd gyda dwysder i weddio am bresenoldeb y Meistr gyda ei weision—bod yr eglwysi yn oeri, a'r byd yn caledu.

Daeth y Gymanfa. Yr oedd yn parhau yn wanaidd ; er hyny mynodd ei gario i'r gyfrinach yr ail ddydd;