Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eithr gorfu arno ddychwelyd yn fuan; a dyma y tro diweddaf y bu allan. Ymwelwyd ag ef gan ychydig o'i gyfeillion nos Sabbath, y 15fed o Awst; ymddangosai yn dra bywiog, a chafwyd cyfrinach felus a buddiol. Barnai yntau ei fod ar wellhad, ac y caniatäai yr Arglwydd iddo estyniad dyddiau. Gorchymynodd i'r holl deulu fyned i orphwys y noson hono, ac os byddai taro y gwnai alw. Ond yn blygeiniol iawn boreu dranoeth, wele y swyddog diweddaf yn curo wrth ddrws ei babell. Yr oedd y gwyliedydd yn effro; adnabu yr ergyd, cyfododd o'i wely, ac a aeth i'r ystafell nesaf at ei briod; eisteddodd ar y gwely, gorweddodd ei ben ar ei mhynwes, a dywedodd, "Mae yr awr wedi dyfod." Cafodd hithau nerth i ddal, ac fe a hunodd yn dawel, a'i ymddiried yn ddiysgog yn ei Anwylyd. Aeth y si allan yn foreu; yr oedd yr ergyd yn annysgwyliadwy, ac effeithiodd fel gwefr drydan drwy y dref.

Prydnawn dydd Gwener canlynol, wele holl fasnachdai y dref yn cauad, a'r bobl yn dyrfaoedd yn ymgyrchu tua'i breswylfod, ac yn eu plith yr offeiriad, a holl weinidogion y dref o bob enwad, a llawer iawn o'r amgylchoedd a'r sir. Dacw y Parch. Josuah Phillips, Bancyfelin, yn esgyn y mur o flaen y drws, yn darllen penod a gweddio; yr arch yn dyfod i'r golwg, yn cael ei chario gan ei frodyr yn y weinidogaeth; y dorf yn mudo, a'r côr yn dechreu canu nes adsain nef a daear, a llu yn colli dagrau. Fel hyn cymerwyd ei weddillion breulyd i'r Capel Newydd, man a gysegrodd lawer gwaith a'i weddiau a'i ddagrau. Darllenodd a gweddiodd y Parch. C. Bowen, Penclawdd, a phregethodd y Parch. W. Prydderch, Bettws, oddiwrth Job xix, 25, 26, 27. Areithiodd y Parch. D. Rees, Llanelli (A), a gweddiodd