Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ysgrifenydd ar lan y bedd, lle rhoddwyd ei ran farwol i dawel huno hyd ganiad yr udgorn: eithr am ei ran ysbrydol gallwn ddweyd yn ngeiriau Eben Fardd—

"Onid byw yw enaid Bowen?—er cau'r
Corph dan dywarchen;
Yn efrydfa'r Wynfa wen
Duwinydda'r dawn addien."


MR. JOSEPH THOMAS, PENYBANC,
LLANGATHEN.

JOSEPH THOMAS ydoedd fab i'r diweddar Barch. D. Thomas, Llanddewi brefi, Swydd Aberteifi, a brawd i'r Parch. B. D. Thomas, Llandilo. Efe a anwyd yn Pistill gwyn, Rhagfyr 23, 1816. Ni bu erioed allan o'r eglwys. Ymddangosodd rhyw argraffiadau dwys ar ei feddwl yn nghylch ei gyflwr pan nad oedd ond ieuanc iawn. Ymgysegrodd yn llwyr i fod yn eiddo yr Arglwydd Iesu pan ydoedd yn 16eg oed. Cafodd addysg yn blentyn yn Llanddewi; wedi hyny yn Llangeitho, o dan ofal y Parch. R. Roberts; ac wedi hyny yn Ffrwd-y-fal, o dan ofal y Dr. Davies. Bu wedi hyny am rai blynyddau yn cadw ysgol; y lle olaf y bu gyda hyn oedd yn Cross Inn, Swydd Gaerfyrddin. Yma y dechreuodd ar waith y weinidogaeth, yn mis Chwefror, 1845. Daeth yn dra phoblogaidd ar ei darawiad cyntaf allan. Yn mis Awst, 1846, aeth i Drefecca, i'r Athrofa o dan ofal y Parch. D. Charles, B.A., a bu yno hyd Hydref, 1849; yna aeth i Faesyfed Newydd (New Radnor), i lafurio i blith y Saeson. Ar ol bod yno tuag