Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyth mis, dychwelodd i Swydd Gaerfyrddin, i'w hen gymydogaeth yn y Cross Inn; a llawen iawn oedd ganddynt ei weled. Yn mis Gorphenaf, 1850, ymbriododd A Miss Elizabeth Richards, merch ieuangaf Mr. Richards, Penybanc, Llangathen. Ymsefydlodd yno gyda'i dad-yn-nghyfraith hyd ei farwolaeth. Yr oedd efe yno, o ran ei amgylchiadau, yn dra chysurus, a chyfleus i wasanaethu уг achos goreu; ond erbyn ei fod braidd. yn dechreu dyfod i'r golwg, machludodd ei haul yn ddigymylau, Tachwedd 30, 1852, pan oedd o fewn mis i fod yn un mlwydd ar bymtheg ar ugain, wedi bod yn pregethu yn agos i saith mlynedd. "Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef." Byr fu ei gystudd, ond poenus iawn. Rhagfyr 3, ymgasglodd tyrfa luosog a galarus yn nghyd i Benybanc, ac yn eu plith amrywiol o weinidogion a phregethwyr o wahanol enwadau. Dechreuodd y Parch. T. Davies, Tabernacl, Llandilo (A.), a phregethodd y Parch. M. Morgans, Llandilo (un o'i gyd-efrydwyr yn yr Athrofa), oddiwrth Job xiv. 1; a'r Parch. J. Jones, Llanedi, oddiwrth Rhuf. xv. 13; yna aed â'r ran farwol i fynwent Llangathen, lle y gorwedd hyd oni ddaw i fyny ar wedd ei Briod a'i Brynwr.

Yr oedd Mr. Thomas yn ddyn o dymher siriol a hawddgar iawn, tirion a chymwynasgar; gwnai gymwynas i gyfaill, os byddai ar ei ffordd, yn rhwydd a rhydd. Nid oedd dim ynddo o'r golwg; ond cyfaill mynwesol ydoedd, yn tybied pawb fel efe ei hun, yn ddiniwed a difeddwl drwg. Fel Cristion, nid oedd neb a'i hadwaenai yn amheu ei grefydd. Yr oedd yn Gristion da, a hawdd oedd dweyd am dano, "Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nad oes dwyll." Yr oedd yn wresog a bywiog iawn gyda phob rhan o'r gwaith; a pha beth bynag a ymaflai ynddo, gwnai â'i holl egni. Yr oedd