Prawfddarllenwyd y dudalen hon
yn ymchwilgar iawn am wybodaeth, ac yr oedd wedi cyrhaeddyd graddau cyffredinol o honi. Yr oedd yn astudiwr da. Yr oedd ei bregethau, y rhan amlaf, yn ymarferol; a phan y byddai o dan "yr eneiniad oddiwrth y Santaidd hwnw," yr oedd ei weinidogaeth yn bwerus, ac yn bachu yn nghydwybodau ei wrandawyr. Bu yr ysgrifenydd ac yntau ar daith gyda'u gilydd unwaith yn y Gogledd—yr unig dro y bu gwrthddrych y cofnodau hyn yn y wlad hono; byddai rai gweithiau yn rymus iawn, nes byddai rhai o'r gwrandawyr yn tori allan i orfoleddu, a rhai i lefain am eu bywyd. Diau pe buasai Y brawd anwyl hwn yn cael hir oes, Y daethai yn bregethwr poblogaidd iawn.