Yr oedd ei bregethau y rhan fynychaf yn athrawiaethol. Crist yn ei aberth a'i iawn, yn nghyda'i swyddau a'i ditlau, &c., fyddai hoff faterion ei bregethau. Mae yn agos i ddeugain mlynedd bellach er pan welsom ef gyntaf erioed, yr hyn oedd mewn cymanfa yn Llandilo-fawr; newydd dyfod at grefydd oedd ein hanwyl a'n hoffus frawd y pryd hwnw. Cymanfa oedd hon a gofir am dani byth gan laweroedd. Y Nefoedd yn tywallt gyda gweinidogaeth y cenadon oedd yn pregethu ynddi, er nad oedd ysgrifenydd y llinellau hyn ond ieuanc iawn yr amser hwnw; ond y mae yn gofus genym am agwedd Mr. Phillips yn nghanol y dorf fawr oedd ar y cae, yn bloeddio allan, ac yn diolch am yr iawn. Aeth dros ben ei lestr arno lawer gwaith wedi hyny, nes tori allan i orfoleddu a diolch am yr iawn. Yn aml wrth bregethu byddai yn diolch am "yr hwn a osododd Duw yn iawn." Clywsom ef yn dywedyd mai y fan yma y cafodd ei fywyd. "Pan oeddwn," eb efe, "o dan Sinai, ac yn canfod fy mod yn greadur colledig a damniol, yn ngafael cyfamod wedi ei dori, a'r ddeddf yn ymaflyd ynof, y gorchymyn wedi'm dal, a minau wedi marw, y cefais olwg ar yr iawn. Nis gallwn," eb efe, "lai na diolch. Trwy yr iawn y cefais fy mywyd."
Un iraidd ei ysbryd oedd Mr. Phillips. Pan glywai fod yr achos yn llwyddo yn rhyw le, byddai hyny yn ei ddwyn ef i lawenhau. Byddai weithiau pan ar weddi yn diolch i'r Arglwydd am gael clywed y newyddion da, ac adgoffhäni hyny yn aml pan yn pregethu. Y golled fwyaf a gafodd yr achos yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd yn Swydd Gaerfyrddin er ys blynyddau lawer oedd colli y brawd hawddgar hwn. Yr oedd yr holl eglwysi yn y Sir yn agos at ei galon, ac ar ei feddwl y