Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhan amlaf o'i amser, yn enwedig yn ei flynyddau olaf. Yr oedd ei ofal gymaint a phe buasent wedi eu hymddiried oll iddo ef. Gwr gofalus ydoedd am yr achos yn ei holl ranau, gartref ac oddicartref. Bu am hir amser yn ysgrifenydd i'r Cyfarfod Misol; cyflawnodd y swydd hon yn ddigoll. Ni byddai un amser yn absenol o'r Cyfarfodydd hyn oddigerth ei fod allan o'r Sir; da iawn oedd gan bawb ei weled, pan yn eistedd yn y seat fawr o dan y pwlpud, a'r bwrdd o'i flaen, a'r ysgrifell yn ei law.

Ein llygaid ni oedd gwrthddrych y cofiant hwn. Mae yn amlwg erbyn heddyw na adawodd neb ar ei ol, mor ffyddlon ag ef ei hun, yn hyn o orchwyl beth bynag. Yr oedd Mr. Phillips yn ddyn o ysbryd bywiog iawn, ac awydd myned yn mlaen gyda chrefydd, a chyda phob diwygiad fyddai yn fanteisiol er hyrwyddo olwynion cerbyd yr Immanuel.

Yr oedd ysgrifenydd hyn o linellau yn dra chyfarwydd ag ef, yn enwedig yn y blynyddau diweddaf o'i fywyd. byddem fynychaf yn y Cyfarfodydd Misol yn lletya yn yr un man. Yn ystod yr amser hyn, cefais dystiolaeth i mi fy hun ei fod yn Gristion didwyll; gweddiai lawer yn y dirgel, a siaradai lawer am yr achos, yn ei holl amgylchiadau. Mae arnaf hiraeth ar ei ol hyd heddyw; treuliais lawer awr felus yn ei gymdeithas. Teimlwn wedi bod gydag ef, fy mod wedi bod gyda gwr Duw. Rhoddwn ei hanes yn mhellach eto, fel ag y mae wedi ymddangos eisioes gan weinidog parchus yn ein Sir, yr hwn a bregethodd ei bregeth angladdol oddiar 3 Ioan xii, yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol ei gladdu. Da fyddai pe anrhegid y cyhoedd â'r bregeth ragorol hon.

Awst 22, 1854, bu farw y Parch. Rees Phillips,