Llanymddyfri, yn 55 mlwydd oed. Nis gwyddom beth a ddygwydd mewn diwrnod. Cafodd y brawd anwyl hwn ei daraw gan bang o'r parlys pan wrth y gorchwyl o bregethu yn Nghyfarfod Misol Rhydcymerau, ar yr 17eg o Awst. Diffrwythwyd un ochor i'w gorph ar unwaith; ac yr oedd ei enaid wedi dianc i baradwys yn mhen pum niwrnod.
Bu Mr. Phillips yn pregethu oddeutu 30 mlynedd, ac yn neillduedig i gyflawn waith y weinidogaeth am 18 mlynedd. Un o" heddychol ffyddloniaid Israel" ydoedd ef. Yr oedd yn gymeradwy yn mysg lluaws ei frodyr," ac iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Yr oedd yn ddyn sefydlog; yn gyfaill ffyddlon; yn Gristion trwyadl, ac yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Yr oedd yn hawdd adnabod fod yn anwyl iawn ganddo am Grist, ac mai yr hwn a dderbyniasai ei hun a gymhellai ar eraill; ac yn gyffredin, yn enwedig yn ei amser diweddaf, byddai yn agos yn wastad o dan raddau helaeth o'r "eneiniad oddiwrth y Santaidd hwnw." Fe gafodd dystiolaeth cyn ei symud ddarfod iddo ryngu bodd Duw. Bu farw mewn gorfoledd, a'i lygaid yn gweled iachawdwriaeth yr Arglwydd. Fe'i cymerwyd ymaith, fel y gwelir, yn bur ddisymwth, a hyny yn nghanol ei ddefnyddioldeb. Teimlir colled fawr ar ei ol, yn enwedig yn ei sir ei hun; canys un oedd ef a wir ofalai am yr achos yn ei holl ranau. Yr oedd wedi llwyr ymgysegru i'w wasanaethu. Gellir dywedyd yn ddibetrus, "Yr hyn a allodd hwn, efe a'i gwnaeth."
Yn nesaf rhoddwn hanes ei oriau diweddaf, fel ag y mae wedi ei ysgrifenu gan y brawd parchus, yn nhŷ yr hwn fu farw yn Rhydcymerau.
"Yr oedd Mr. Phillips, ar yr amser y cafodd ei daro