Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan angau, yn pregethu yn Nghapel Rhydcymerau, Sir Gaerfyrddin, tua phymtheg milldir o Lanymddyfri, yn y Cyfarfod Misol, Awst 16eg a'r 17eg; ac efe oedd yr olaf yn pregethu y dydd diweddaf am 2 o'r gloch. Ei destun oedd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth, Act. xvi. 17. Cawsom ddigon o foddlonrwydd yn ei gystudd i wisgo ei destun am dano ef, gan ddywedyd, Y dyn hwn oedd un o weision y Duw goruchaf." Pan oedd yn ei frwdfrydedd yn mynegi ffordd iachawdwriaeth i bechaduriaid, y teimlodd ryw ddiffyg yn ei dafod, a'i law aswy yn myned yn ddideimlad; ond yn nerth Duw, fel bob amser, cafodd fyned trwy ei bregeth; a chyda'i fod yn gweddio ar y diwedd, crymodd tua'r llawr, gan ddywedyd, "Dyma fi ar ben; rhowch air i ganu.' Cymerwyd ef rhwng pedwar o'r brodyr i dŷ yr ysgrifenydd, (sef Mr. D. Davies, Shop, un o'r Bedyddwyr, yr hwn hefyd bellach er ys tuag wyth mis sydd wedi huno yn yr Iesu) a dodwyd ef yn y gwely. Anfonwyd am feddyg yn ddioed, yr hwn pan ddaeth a ddeallodd ei fod wedi cael ei daro gan y parlys yr ochor aswy i gyd. Gwnaeth ei oreu iddo; ond pan ddel angau, mae pob meddyginiaeth yn ofer, ac felly y bu y tro hwn. Am y tri diwrnod cyntaf, swrth-gysgu oedd bron o hyd; a phan ddeffroai, ei brif ofid oedd fod dydd ei ddefnyddioldeb yn darfod o flaen ei fywyd. Gobeithini yn fawr y gwellhäai eilwaith am ychydig, i gael bod yn ffyddlon dros ei Dduw, i gyhoeddi iawn y groes i bechaduriaid sydd yn gorwedd mewn trueni mawr. Yr oeddwn yn treio ei gysuro trwy ddywedyd na fyddai yn ddim colled iddo ef pe buasai ei oriau bron a'u rhifo ar y ddaear. Pa fodd y gwyddoch chwi hyny?' ebe yntau. Am eich bod yn ddyn duwiol, ebe finau, "a