phan oeddech yn mynegi ffordd iachawdwriaeth y cawsoch eich taro yn glaf.' 'O,' ebe yntau, 'dyw hyny ddim i bwyso arno;' ac yna dywedai
Iachawdwriaeth rad ei hunan,
Yw fy nghais o flaen y nef,
A farwel am dana'i fythol,
Oni chaf ei haeddiant Ef."
'Mr. Phillips,' ebe finau, 'peidiwch â bod yn ormod o Galfin; y neb sydd yn ceisio sydd yn cael; a chofiwch mai y dynion sydd yn byw yn santaidd yn y byd hwn yw y rhai a gedwir i fywyd tragywyddol, ac mai wrth ei ffrwyth mae adnabod y pren.' Yr ateb a gefais oedd
"Iesu ei hunan,
Oll o flaen fainc i mi."
Am ddeg o'r gloch nos Sabbath cafodd ei daro mewn llewyg caled iawn, nes yr oeddwn yn meddwl ei fod yn yr afon. Ceisiai genyf wasgu ei ben, gan ddywedyd, "Nid oes dim niwed yn bod; yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf;' yna ymostyngodd David Davies, y blaenor, mewn gweddi ddwys iawn yn ei achos. Credwyf fod gweddio y tro hwn mor rhwydd ag anadlu. 'Arglwydd,' eb efe wrth weddio, os oes rhaid i'r hen long fyned yn ddrylliau yma, a than y don, mae yn ddigon eglur nad oes dim colled am fywyd neb.' Ar hyn gwaeddodd Mr. Phillips, Bendigedig! Duw yn Nghrist, ddwy waith. 'Ffydd, meddai eilwaith, beth dâl ffydd os na thâl hi yn awr?'
Ffydd i'r lan a'u daliodd hwy,"
ebe finau. Atebodd yntau,
"Mae'r addewid lawa i minau,
Pa'm yr ofna f'enaid mwy ?"