Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fawr. Y can cymaint yn y byd hwn; ond yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol. Un peth ydyw gwybod mwyneidd-dra yn y pwnc, peth arall yw bod yn fwynaidd. Wrth gael rhyw ymweliad yn y Gymanfa a'r Cwrdd Misol, a'r eglwysi lleol, y mae y Methodistiaid wedi dal eu tir hyd heddyw yn Nghymru; a thra y byddom ni yn amcanu fel Corph i ymgadw rhag drygnu, nid yw yn debyg y gwna yr Arglwydd ein gadael." Sylwai bryd arall, 'Does modd i gael mwy ar y ddaear hon, na chael yr Arglwydd yn Dduw i ni.' hyn allan gwaethygu yr oedd o hyd o ran y dyn oddiallan, ac yn gwella o hyd o ran y dyn oddimewn. Yr oedd yn cwyno am fyned adref, ac yn dysgwyl y fly o Lanymddyfri i'w ymofyn dydd Llun; ond nos Fawrth anfonodd Duw ei angel-gerbyd i'w ymofyn i'w artref tragywyddol; ac y mae yn hyfryd genyf feddwl fod ffordd wedi ei hagor o fy ngwely bach i i'r drydedd nef.

"Dydd Mawrth, ychydig ddywedodd am fyned adref: yr oedd yn wael iawn trwy y dydd. Gofynais iddo yn y prydnawn a oedd yn teimlo poen mawr. Atebodd nad oedd, fod y gwaethaf wedi myned heibio. Bendigedig fyddo Duw am hyny,' eb efe. Atebais inau fy mod yn ofni fod poen mawr arno; ond ni chymerodd arno fy nghlywed. Dywedodd eilwaith, le yn wir, bendigedig, a bendigedig fyddo byth bythoedd hefyd am hyny. Am saith o'r gloch nos Fawrth dechreuodd bregethu a chynghori pawb i wneyd y goreu o'u hamser. Cewch ffeindio,' eb.efe, y bydd yn ddigon byr i chwi, heb wastraffu dim o hono.' Erbyn hyn daeth llawer iawn o ddynion at y tŷ i wrando arno—llais megys o fyd arall, a phawb a'u gruddiau yn wlybion. wrth wrando. Mawr mor effeithiol oedd ei ymadroddion. Gofynodd ei ferch iddo a oedd yn ei hadnabod hi.