Meddyliodd yntau mai gwraig y tŷ oedd yn gofyn iddo.. Ydwyf,' ebai, 'yn eich adnabod chwi; fe ddylwn eich adnabod hefyd, am yr holl garedigrwydd wyf wedi ei dderbyn oddiar eich llaw. Yr Arglwydd a'ch gloywo chwi i gyd fel teulu. Gair yr Arglwydd a wnaeth hyn i mi. Fel pe dywedasai mai effaith gair yr Arglwydd oedd yn ein calonau ni yn peri i ni fod mor dyner tuag ato fel hyn. Yr oedd yn myned at y gwreiddyn.
Pe buaswn yn ysgrifenu fel yr oedd pob peth yn dod o'i enau, ni fuasai eisiau un golygydd i edrych ar ol y gwaith. Fel y canlyn yr oedd ei ymddyddanion olaf.
Yn y dyfroedd mawr a'r tonau
Nid oes neb a ddeil fy mhen," &c.
"Mae geiriau yn dywedyd na fyddant farw mwy,' ebe fi wrtho. Atebai yntau, Nis gallant farw mwy, Dafydd bach; oblegyd cyd-stad â'r angylion ydynt." Fel hyn y parhaodd i lefaru yn hyfryd ar erchwyn y gwely, hyd nes daeth yr angylion i'w ymofyn o wlad y cystudd mawr i wlad na chlywir neb ynddi yn dywedyd, 'Claf ydwyf. Am haner awr wedi deg o'r gloch gallasem ddywedyd am dano yntau, "Nis gall farw mwy." Fel hyn y terfynodd y gwr duwiol hwn ei yrfa. Cafodd fynediad helaeth i mewn i'r deyrnas dragywyddol. Y dydd Iau canlynol hebryngwyd ei weddillion mewn modd anrhydeddus i Lanymddyfri, a gosodwyd hwynt i orphwys y noson hono yn ei dŷ ei hun. Prydnawn dranoeth am 3 o'r gloch, cyn cychwyn y corph o'r tŷ, darllenodd a gweddiodd y Parch. E. Williams, Defynog; yna aed i'r capel, lle y darllenodd ac y gweddiodd y Parch. T. Job, Llanddarog; pregethodd y Parch. T. Elias, Defynog, oddiwrth Phil. i. 23; yna dodwyd ei gorph i orphwys yn nhŷ ei hir gartref, o'r