Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tu allan i'r capel, ar gyfer y pwlpud, y fan a ddymunasid ganddo ei hun. Anerchwyd y gynulleidfa yn dra effeithiol ar lan J bedd gan y Parch. B. D. Thomas, Llandilo, a gadawyd ei ran farwol yno hyd adgyfodiad y meirw. Canwyd yr hymn ganlynol cyn ymadael:

"Mae'm cyfeillion wedi myned
Draw yn lluoedd o fy mla'n,
Rhai fu'n teithio dyffryn Baca,
Gyda mi i Salem lân," &c.

Nis gwelsom fwy o barch ac o deimlad yn cael ei ddangos i neb nag a ddangosid yn gyffredinol ar ol y brawd ymadawedig hwn yn nhref ei enedigaeth. "Dyna ddyn duwiol," ebe un. "Dyna ddyn da a diniwed, ebe y llall. "Un melus ydoedd yn y society," meddai y trydydd: "os byddai brawd neu chwaer yn wan yno, ymdrechai Mr. Phillips ei godi i fyny." Y swn cyffredinol trwy y dref oedd, "Y fath golled a gawsom!" Fel blodeuyn, gwenai yn siriol yn ei fywyd; ond yn ei angau llanwai yr awyrgylch a'i berarogl. "Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn; canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd."