Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MR. JOHN HUGHES, LLANEDI.

JOHN HUGHES ydoedd fab i'r Parch. D. Hughes, Cross Inn, brawd i'r Parch. R. Hughes, Cwmaman, ac wyr o du ei fam i'r diweddar Barch. R. Davies, Llansadwrn. Ganwyd ef Awst 17, 1829, yn y Graig, tyddyn bychan yn mhlwyf Llanegwad. Cafodd ei faethu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, ac ni bu erioed allan o'r eglwys. Derbyniodd ei addysg yn benaf o dan ofal ei dad, уr hwn oedd y pryd hyny yn cadw ysgol ddyddiol yn Nantcaredig. Yr oedd ofn marw yn annuwiol yn gwasgu yn ddwys ar ei feddwl yn aml iawn, er pan oedd yn dra ieuanc, yn enwedig pan y dygwyddai wrando pregeth bur daranllyd. Pan tua 17eg oed, ymroddodd i fod yn gyflawn aelod o eglwys y College, gerllaw pentref Llangathen; yn y lle hwn y dysgodd ei gelfyddyd fel dilledydd. Yn fuan wedi hyny symudodd i Lanedi, ac ymunodd ag eglwys Ebenezer. Mehefin y 25ain ymbriododd â Mari, merch Mr. John Francis, Penycryg, Llanedi.

Dechreuodd bregethu ryw bryd yn y flwyddyn ganlynol; ac, fel y gwelir yn y Drysorfa am fis Mai, 1855, dymunai a dysgwyliai yr eglwys hir ddyddiau a llwyddiant mawr ar ei lafur; ond erbyn ei fod megys yn ymagor a dechreu dyfod i sylw a defnyddioldeb, wele, y 'blodeuyn a syrthiodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd.'

Wedi dyoddef cystudd yn amyneddgar dros rai misoedd, efe a fu farw Tachwedd 29ain, 1854, yn 25 ml. oed, gan adael gweddw a mab bychan i ofal "Barnwr