y gweddwon, a Thad yr amddifaid." Ystyrid ef yn ddyn cywir a gonest, yn briod tyner, yn gyfaill serchog, yn Gristion dysglaer, ac yn bregethwr dawnus. Er na bu yn hir ar y maes, eto bu yn ddigon hir i ddangos mai nid wedi dyfod yno i fod yn segur yr ydoedd; yr oedd ôl llafur ar ei bregethau. Yr oedd trefnusrwydd ei faterion, a gwreiddiolder ei ddrychfeddyliau yn hynodion ynddo. Teimlir colled ar ei ol, yn neillduol yn y manau lle yr adwaenid ef oreu.. Gellir dweyd mai dyn yn byw ei bregethau ydoedd; un yn tynu cysur o'r fan y cyfeiriai eraill am gysur; un yn pwyso ar y maen y cynghorai eraill i bwyso arno.
Profodd hyny yn angau; gadawodd broffes dda ar ei ol. Dywedir nad oedd yn brysio dim yn wyneb marw. "Ni frysia yr hwn a gredo." "Mae heddwch rhyngof a Duw," ebai; ac ychwanegai, "mae y cymod wedi ei wneyd—y gwaethaf wedi myned heibio; dim damnio, dim damnio byth mwy." Y rhai hyn oeddynt ei eiriau diweddaf.
Dydd ei gladdedigaeth, ymgynullodd tyrfa luosog i ddangos eu caredigrwydd olaf iddo. Pregethodd y Parch. J. Jones, Llanedi, ar yr achlysur galarus oddiar Esay xxvi. 19. Dodwyd ei gorph i orwedd yn mynwent Ebenezer-y capel y perthynai iddo, hyd y boreu y gwelir ef ar ddelw y Gwaredwr, yn mhlith y dyrfa fawr hono fydd yn teyrnasu gyda Christ yn oes oesoedd.