Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y PARCH. CHARLES BOWEN, PENCLAWDD.

MAB ydoedd Charles Bowen i William a Mari Bowen, Rhydargaeau, yn agos i Gaerfyrddin. Ganwyd ef Hydref 26, 1823. Cafodd ei fagu yn yr eglwys o'i febyd. Daeth yn gyflawn aelod pan yn bymtheg oed. Dechreuodd bregethu pan yn bedair ar bymtheg oed. Neillduwyd ef i fod yn gyflawn gyda gwaith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa Aberafon, Awst, 1854, ar ba amser dywedodd y Parch. D. Charles, A.B., ei athraw gynt, fod ef yn meddwl ei fod yn cael ei ordeinio i'r nefoedd yr oedd yn ganolig ei iechyd y pryd hwnw. Bu farw ar y 14eg o Ragfyr, 1854. Dydd Mawrth canlynol aethpwyd â'r corph i'r capel, pryd y gweddiodd

Parch. R. Lumley, Abertawy, a phregethodd y Parch. W. Williams, Bethany, Abertawy, yn Saesneg, a'r Parch. W. Griffiths, Gower, yn Gymraeg; wedi hyny dodwyd yr hyn oedd farwol o hono yn ei wely pridd, i orphwys hyd foreu caniad yr udgorn, pryd y daw i fyny mewn gogoniant, wedi ei gylchu ag anfarwoldeb, yn ddigon cryf i ddal tragywyddol bwys gogoniant.

Yr oedd Mr. Bowen o dymher addfwyn, ostyngedig. a diymhongar iawn; pwyllog yn ei holl ysgogiadau, ond eto yn benderfynol. Unwaith yr ymaflai mewn unrhyw beth, nid oedd dim a wnelai iddo droi ei gefn arno; i'r hyn, yn nghyda galluoedd meddwl cryf, y gellir priodoli ei lwyddiant fel ysgolhaig. Mae yn sicr iddo ef, yn ol y manteision a gafodd, fyned mor bell yn mlaen ar faes gwybodaeth a neb o'i gyfoedion. Yr oedd ei